Skip to content

sut i wneud

#blogydydd 7: sut i wneud paent

“It’s not for everyone – sometimes I have to squeeze through narrow tunnels and it can be hot and uncomfortable. But I love it down there – I often mine on my own, it is peaceful and I lose track time.”

“I was born here, I’ve worked for years in the mine and I’m over 21 – the only problem is that I’m not a man. But the world has changed a bit since 1838 so I thought I would be entitled under the Equal Opportunities Act. They turned me down at first but I was not prepared to give in without a fight.”

“When they phoned me to say I’d finally been accepted I was ecstatic. I’ve been mining for so long and now I have a title which befits the job”

“Elaine has been registered but it is fair to say that there is significant disquiet among the freeminers. The feedback I’ve had is that a number of people are not happy with this.” Linc i’r erthygl gyfan (pdf)

[sylw: 1. fy fideo cynta! iei a sori am y camgymz. 2. wnes i ddewis fy enw youtube ar frys rywbryd a nawr alla i ddim ei newid. ON oes rhywun yn gwbod sut i neud fersiwn wedi’i sbîdio fyny?] [3. wrth geisio adolygu teipo yn y 2 eiliad gynta, mi racsais y fersiwn gynta! Heddwch i’w lwch, roedd o tua 4.3 eiliad yn well na’r un yma. Mae’n fore llun felly dwi am faddau 4.3 eiliad.]

[o’r archif] Crefft o’r dechre 1 – cadw-mi-nodwydd

IMG_0745-1024x768

[o’r archif] Un peth sy’n fy nghadw rhag dysgu go iawn o arbrofi gyda tecstiliau ydi’r brwgaitsh yn fy mag pwytho. Mae popeth yn teimlo fel ‘damwain hapus’, yn enwedig am fy mod byth a beunydd yn darganfod hen fotymau neu sgrapiau bach diddorol. Anfantais yw’r ffaith nad oes fyth nodwydd neu fotwm addas a normal pan dwi’u hangen nhw.

Yn ysbryd home ec, felly, y peth cyntaf i’w wneud wrth ail-drefnu’r bag oedd pwytho cadw-mi-nodwydd, i osgoi pigiadau annisgwyl tra’n chwilota am rywbeth arall. Aw! Mi geisiaf roi cynllun bras ar-lein o sut i wneud un pan gaf fi sleifio i ddefnyddio peiriant sganio mam fy nghariad.

Mae dysgu i ddefnyddio illustrator ar y rhestr, dwi’n addo. Er gwybodaeth, mae’r rhan fwyaf o’r deunyddiau dwi’n eu defnyddio wedi dod o siop lenni. Mae’n wastad werth gofyn os oes darnau/stoc ganddyn nhw tu cefn i’r cownter. Cefais dros 4 metr o gotwm trwm tro diwethaf, ar yr amod fy mod yn rhoi dwy bunt yn y bocs Marie Curie wrth y til. Chware teg! Gwersi amlycaf?

  • #1 Mesur deirgwaith, torri unwaith.
  • #2 Dwi angen sialc teiliwr, dydy Sharpie ddim yn gwneud yr un job.

[o’r archif] crefft o’r dechre 3 – bobins a gybins

Casyn gybins, pwyth cwiltio
Casyn gybins, pwyth cwiltio

Er fy mod wedi bod yn ymarfer cwiltio ers rhai misoedd, fyddwn i ddim yn honni fy mod i’n arbenigwraig o bell ffordd. Dwi’n ceisio cofio be dwi ‘di’i ddysgu’n barod, brith gofion dysgu gan fy Nain, a cheisio dysgu o’r camgymeriadau dwi di’u gwneud yn barod ar y daith fach ‘ma. Dwi’n llawchwith, felly bydd diagramau llyfrau felarfer yn anodd iawn i’w defnyddio, ac ar ol diwrnod yn ceisio eu dilyn, fydd gen i grafanc gwraig ty* a bysedd amrwd.

Ceisiais ddefnyddio rhai pwythau cwiltio i wneud waled i ddal gubbins. Does dim syniad da fi sut i drefnu’r holl fotymau ‘ma sydd ‘da fi, bydd raid i fagiau darganfyddiadau archaeolegol wneud am y tro.

Beth ddysgais i?

  • #1 (slight return) Mesur, mesur, mesur
  • #2 Sut i neud bobbins.
Llwyth o fobins
Llwyth o fobins

[o’r archif] crefft o’r dechre 2: pincws

IMG_0746-768x1024

Reit, nawr bod gen i rywle i gadw fy nodwyddau pan fyddan nhw’n cysgu, mae angen lle iddyn nhw orffwys pan fyddan nhw’n gweithio. Defnyddiais gotwm trwm a stwffin hen glustog 79p o Ikea i wneud clustog fach. Mae’r rhai Ikea yn mynd yn ddi-raen mor glou, dwi’n tueddu i’w dad-adeiladu a chadw’r cotwm ar gyfer seiliau cwilt, a chadw’r stwffin darniog i wneud teganau a phethau bach eraill.

Roedd y glustog fach yn edrych braidd yn ddiflas, felly ceisiais ymarfer cwpwl o bwythau allai fod yn ddefnyddiol yn y dyfodol. Canlyniad: tylluan-bincws.

Datganiad: dwi’n hollol rybish am bwytho botymau, ond dwi’n gwella. Unrhywbeth defnyddiol arall wedi’i ddysgu?

  • • Penderfyna ar dy addurn cyn rhoi’r peth at ei gilydd, mi fydd yn lot haws i’w bwytho bryd hynny.

Mwy o bwmpio

IMG_0130-e1382915747907

Ar waelod y daflen ola’ i mi bostio ddoe, mae ‘na gwpwl o syniadau ar sut i newid trwch muriau’r bwmpen i greu effeithiau golau gwahanol.

Dwi’n ffindio llusernau yn anodd iawn i’w ffotograffio: mae’r camera’n siglo yn fy nwylo, neu dyw’r llun ddim cweit yn dala’r naws maen nhw’n eu creu. Ond, dyw’r uchod ddim yn ffôl, a galli weld yn fwy manwl sut i newid lliw y golau trwy wneud toriadau rhannol a chyflawn. Fe wnes doriad cyflawn i greu’r tân, y lleuad a’r fflam sy’n dod o geg y crochan, hanner toriadau yw’r gweddill.

Fe adawes i stribed denau o groen yn ei le i greu’r band o amgylch ceg y grochan – bydd yn ofalus iawn efo’r torrwyr leino os ti am wneud yr un fath. Ma hi’n job gwin wedyn, nid gwin-yn-ystod.

Dyma fy fersiwn i o’r pentre pwmpen ar y daflen. Cyllell grwm, sgiwer a thorwyr leino, triwch nhw. Mae gymaint yn fwy o hwyl na chyllell fara, onest.

Ma ‘na bentre pwmpen ar y daflen hefyd – mae’n hawdd i’w greu gyda phwmpenni bychain, a galli arbrofi efo siapiau drysau a ffenestri gwahanol. Fel yr Hobbit, ond heb y twll distracting yn y sgrîn.

IMG_20131027_191654-e1383768254531
Dyma fy fersiwn i o’r pentre pwmpen ar y daflen. Cyllell grwm, sgiwer a thorwyr leino, triwch nhw. Mae gymaint yn fwy o hwyl na chyllell fara.

Pan gerfies i un ddiwethaf, o’n i wedi fy ysbrydoli gan lawr y goedwig (dwi’n cofio gofyn mewn salon am wallt ‘lliw llawr y goedwig’ ar y pryd, oedd o’n chwiw eitha dwys). Mi wnes bryfaid cop, nadroedd a phenglogau bach o glai, eu peintio’n glou efo acrylic a’u defnyddio i addurno’r tai, ynghyd â brwgaitsh a deiliach hydrefol.

Dwi ddim yn hoffi lluchio addurniadau tymhorol, heblaw y rhai shit*, felly dwi’n lapio’r rhai gorau mewn tusw o’r siop botel a’u cadw. Mi fydd y pryfaid cop yn ail-ymddangos o gwmpas y ty dros y diwrnodau nesa.

*mwy am grefftio crap rywbryd eto

Sut i gerfio pwmpen

Ma na bwmpen odidog wedi ymddangos ar fwrdd yr ystafell fwyta, ac yna ma hi wedi bod yn eistedd ers sbel. Ma pethe wedi bod mor brysur, dwi heb cael cyfle i eistedd efo paned, pin a phapur, heb sôn am gerfio campwaith hydrefol.

Ond ar ôl dod o’r ysbyty echddoe, yn gwynfanllyd a gwamal, mi ffeindies bod peintio dyfrliw yn diddanu’r boen. Felly dyma greu’r taflenni isod – os ti ‘rioed ‘di cerfio pwmpen o’r blaen, neu os ti’n ffansi trio rhywbeth fwy cymhleth, y bwriad yw i dy ysbrydoli.

Ac os yw e’n mynd o’i le? Wel, alli di wastad ei thorri’n ddarnau mân, ei sticio yn y sosban, a’i throi’n gawl (neu gatwad) gan chwerthin yn ddanheddog.

sut-i-gerfio-pwmpen-1

sut-i-gerfio-pwmpen-2

sut-i-gerfio-pwmpen-3