Skip to content

sampler

Baneri a Ballu

Chwyldro

Ges i gic yn fy nhin gan set Gwenno yn y Dyn Gwyrdd, felly fues i’n pwytho hwn dros y penwythnos – oedd na lot o eiste yn y babell. Wnes i ddim meddwl lot am y cynllun cyn ei ddechre, felly mater o gyfri llawrydd ac ailadrodd mewn coch 666 oedd creu y faner fach.

Ar ôl cyrraedd adre, mi gariais i ‘mlaen efo’r pwyth croes – dwi heb afael mewn darn ohono ers sbel. Mae’n od fel ma pethe’n eistedd yn y drôr am gyhyd ac yn sydyn chwap! Ma nhw i gyd wedi’u gorffen. Mi wnes waith clou o sampler Llwybr Llaethog (sampler! hehe!) – mae’r un gwreiddiol yn eu meddiant nhw erbyn hyn, ond drafft anorffenedig oedd hwn, oedd un pwyth yn rhy fyr.

Baner Dull Di Drais

A fel mae’r pethe ma’n gweithio, ble mae’r dwylo’n mynd mae’r meddwl yn eu dilyn. Pan glywais i fod pennaeth cyngor Caerdydd wedi honni nad yw’r gymraeg yn rhan o ‘ffabrig cymdeithasol’ y ddinas? RHY HAWDD PHIL. Mi ddechreuais ddrafftio gwahanol syniadau yn defnyddio papur graff ac adobe shape.

Ffabrig Cymdeithasol

Mi wnai bostio patrwm cyn bo hir, ar hyn o bryd dwi’n cadw mysedd yn brysur yn creu ac yn cynllwynio…

Ffabrig Cymdeithasol

#blogydydd 3: y gwaith hirfaith, anorffenedig

Yn yr un modd ag y ma’i wedi ei raglunio bod un bocs sydd byth i’w wagio ar ôl symud ty, un drôr llawn pethe defnyddiol sydd byth am weld gole dydd; hefyd mae un prosiect creadigol yn byw yng ngwaelod y fasged fel petai’n styc mewn merbwll drewllyd.

 MIR
MIR

Be sy’n fy atal rhag ei orffen? Perffeithiaeth a diogi. Efallai fy mod yn hoffi ei gwmpeini ormod i’w anfon i’w gartref newydd. Be sy gynnoch chi yn ymdolcio yng ngwaelod eich basged? Siwmper unllawesog? Sgidie babi i rywun sydd nawr yn ei arddegau? Doethuriaeth am symboliaeth planhigion yng ngwaith Mihangel Morgan? Rhannwch o yn y nodiadau! Mae’n hen bryd ymfalchïo yn ein gweithiau hirfaith, anorffenedig…

Amser hudol o’r flwyddyn yw amser ail-gylchu dy bwmpen

Neu gadwa e i bydru wrth y drws cefn, be bynnag sy’n teimlo’n briodol. Dwi’n cofio’r un Nick Griffin wnes i gwpwl o flynyddoedd yn ôl yn mynd yn fwyfwy brawychus wrth iddo fe ddarfod, a gwaeth byth yn y bag, fel ysbryd awtoerotig. Ond! Fe ges i amser i eistedd a chreu’r un isod, sy’n llawer fwy llon (a chwl a spwpi), fel anrheg i Llwybr Llaethog.

pwmpen-dub-cymraeg
gaea hapus, o bwmpen ddub cymraeg!

Achlysur cerfio’r bwmpen oedd i ddathlu sbageti bolognese blasus, a rhyddhau eu halbwm newydd, Dub Cymraeg.

Dyma ble mae eu bandcamp, ble alli ei brynnu. Dwi ddim ar gomisiwn, ond mae LL-LL yn arwyr gwneud i fi, a mae’n nhw’n ysbrydoli’r pethau dwi’n eu gwneud o dro i dro.

fel hwn, un o fy hoff sampleri.
fel hwn, un o fy hoff sampleri.