Yn yr un modd ag y ma’i wedi ei raglunio bod un bocs sydd byth i’w wagio ar ôl symud ty, un drôr llawn pethe defnyddiol sydd byth am weld gole dydd; hefyd mae un prosiect creadigol yn byw yng ngwaelod y fasged fel petai’n styc mewn merbwll drewllyd.

Be sy’n fy atal rhag ei orffen? Perffeithiaeth a diogi. Efallai fy mod yn hoffi ei gwmpeini ormod i’w anfon i’w gartref newydd. Be sy gynnoch chi yn ymdolcio yng ngwaelod eich basged? Siwmper unllawesog? Sgidie babi i rywun sydd nawr yn ei arddegau? Doethuriaeth am symboliaeth planhigion yng ngwaith Mihangel Morgan? Rhannwch o yn y nodiadau! Mae’n hen bryd ymfalchïo yn ein gweithiau hirfaith, anorffenedig…