Ydych chi’n teimlo fel gosod neges hardd rywle yn eich ardal chi, i ddangos bod y gymraeg yn rhan o ‘ffabrig cymdeithasol’ ein prifddinas?
Wel hwde!
Dyma batrwm syml ichi (wedi’i wneud efo stitchpoint):
Heb wneud pwyth croes o’r blaen ond ffansi rhoi tro arni? Mae Sarah o Craftivist Collective yn gwerthu citiau bach, sy’n cynnwys yr holl ddeunyddiau a chyfarwyddiadau – a mae’r elw o’u gwerthu yn mynd at ariannu ymgyrchoedd sy’n targedu e.e. tlodi gwaith, llafur chwys a llygredd.
Ges i gic yn fy nhin gan set Gwenno yn y Dyn Gwyrdd, felly fues i’n pwytho hwn dros y penwythnos – oedd na lot o eiste yn y babell. Wnes i ddim meddwl lot am y cynllun cyn ei ddechre, felly mater o gyfri llawrydd ac ailadrodd mewn coch 666 oedd creu y faner fach.
Ar ôl cyrraedd adre, mi gariais i ‘mlaen efo’r pwyth croes – dwi heb afael mewn darn ohono ers sbel. Mae’n od fel ma pethe’n eistedd yn y drôr am gyhyd ac yn sydyn chwap! Ma nhw i gyd wedi’u gorffen. Mi wnes waith clou o sampler Llwybr Llaethog (sampler! hehe!) – mae’r un gwreiddiol yn eu meddiant nhw erbyn hyn, ond drafft anorffenedig oedd hwn, oedd un pwyth yn rhy fyr.
A fel mae’r pethe ma’n gweithio, ble mae’r dwylo’n mynd mae’r meddwl yn eu dilyn. Pan glywais i fod pennaeth cyngor Caerdydd wedi honni nad yw’r gymraeg yn rhan o ‘ffabrig cymdeithasol’ y ddinas? RHY HAWDD PHIL. Mi ddechreuais ddrafftio gwahanol syniadau yn defnyddio papur graff ac adobe shape.
Mi wnai bostio patrwm cyn bo hir, ar hyn o bryd dwi’n cadw mysedd yn brysur yn creu ac yn cynllwynio…
Yn yr un modd ag y ma’i wedi ei raglunio bod un bocs sydd byth i’w wagio ar ôl symud ty, un drôr llawn pethe defnyddiol sydd byth am weld gole dydd; hefyd mae un prosiect creadigol yn byw yng ngwaelod y fasged fel petai’n styc mewn merbwll drewllyd.
MIR
Be sy’n fy atal rhag ei orffen? Perffeithiaeth a diogi. Efallai fy mod yn hoffi ei gwmpeini ormod i’w anfon i’w gartref newydd. Be sy gynnoch chi yn ymdolcio yng ngwaelod eich basged? Siwmper unllawesog? Sgidie babi i rywun sydd nawr yn ei arddegau? Doethuriaeth am symboliaeth planhigion yng ngwaith Mihangel Morgan? Rhannwch o yn y nodiadau! Mae’n hen bryd ymfalchïo yn ein gweithiau hirfaith, anorffenedig…
Mae Sian Lile-Pastore a finne wedi bod yn gweithio ar brosiect cudd. Cawsom ein hysbrydoli gan faneri’r syffrajets, ac aethom ati i lunio baneri ein hunain, sydd yn cario enwau menywod. Mae pwytho enwau yn broses hir a myfyrdodol, felly yn raddol daeth yn gyfle i feddwl am hanes yr unigolyn – ac yn gyfle i ddathlu dysgu am hanes menyw o’r newydd. Mi allwch ddarllen mwy am y prosiect yn llyfr newydd Betsy Greer, sef Craftivism: The Art and Craft of Activism. Bydd y llyfr ar gael i’w brynnu yma yng Ngymru wythnos nesa, a mae’n llawn lluniau a chyfweliadau efo ymgyrchwyr gwneud o sawl cyfandir. Yn y cyfamser, dyma lun o rai o’n ffefrynnau:
Dorothy Edwards, awdur ac arloeswraigCredit llunia: Sian Lile-Pastore a fi!
Roeddwn i wedi gobeithio mynd â rhan o’n casgliad i Lundain yr haf hwn, i ddathlu Can-Mlwyddiant sefydlu’r East London Federation of Suffragettes yn yr East London Suffragette Festival. Mae’r wyl yn dathlu sefydliad oedd yn ymgyrchu dros hawliau menywod o bob cefndir cymdeithasol, ac yn benderfynol o wneud yn siwr fod taro pleidlais yn realiti i bob menyw – os gewch chi gyfle, ewch, mae’n mynd i fod yn ddiwrnod ffantastig.
Yn anffodus allwn ni ddim gwneud y siwrne eleni – fodd bynnag, parhau i bwytho fyddwn ni, gan obeithio y gallwn eu harddangos yng Nghymru haf nesa’.
‘Dyn ni’n gwybod cyn lleied am y teithiau ‘wnaeth y baneri cyntaf i Lundain, a mae darllen papurau newydd y cyfnod yn dangos cofnod anghyflawn o’r rhyngberthynas rhwng ymgyrchwragedd Lloegr â Chymru. Dwi wastad wedi licio’r llun hwn, o rali Pererindod Pleidleisiaeth ym 1913, ac yn chwilfrydig iawn am siwrne’r faner, a’r rhai a’i gwnaeth a’i chariodd, rhwng Caerdydd a Llundain.