Wel, dwi’n hwyr efo sialens #pocketsizedprojects, ond ddim bob dydd ti’n trio gwerthu tŷ. Y thema ddoe oedd dŵr, ac wrth i fi lusgo trwy dropbox yn chwilio am rywbeth a wnai’r tro, fe sylwais i nad ydw i’n tynnu llawer o luniau o ddŵr o gwbl!
-Er fy mod yn cael f’atynnu at fy pwnc pan yn sgrifennu, ac yn y cigfyd hefyd – anaml y bydda i’n croesi’r afon Taf heb stopio i edrych ar liw a lefel y dŵr, beth sy’n nofio arni ac yn llifo trwyddi. Mae fel brwyn yn stori March ap Meirchion (sydd hefyd yn rywbeth sy’n ymddangos yn amlach na pheidio pan fydda i’n sgrifennu’n rhydd): dwi’n hoffi sibrwd yr hyn sy’n fy mhoeni i’r afon, neu gyfri fy mendithion fesul diferyn ar y bont wrth y castell.
Llun o’r llyn yn Genefa sydd uchod – eto wedi’i gymryd oddi ar hen gamera lluchio. Ro’n i’n credu am flynyddoedd fod arteffactau’r trip hwnnw ar goll, ond daeth cd-rom i’r fei yn ddiweddar, pan oeddwn i’n clirio’r tŷ ar ôl darllen KonMari.
Mi ges bythefnos o fod yn westai bwrdd twristiaeth y Swisdir a Liechtenstein yn y 00au, yn adrodd ar nodweddion twristaidd y gwledydd hynny, yn arbennig yr rheiny fyddai’n apelio at deithwyr LHDT+.
Efallai i fi gam-gynrychioli fy enwogrwydd fel newyddiadurwraig pan yn gneud cais am fy nhocyn, a roddod basport dosbart 1af ifi i deithio ar eu rheilffyrdd, ac i aros mewn gwestai pum seren mewn dinasoedd a phentrefi mynyddig.

Fe ymwelon ni â gwinllan bersonol Tywysog Liechtenstein; canolfan heboga; arddangosfa gelf Dada; cyfnewidfaoedd nodwydd; clybiau; bwytai a chanolfannau cymorth cymdeithasol.
Bu bron â bod miwtini ar y daith, ymysg ‘newyddiadurwyr’ ‘go iawn’ oedd hefyd ‘actiwali yn hoyw’ – am fod rhai o’r lleoliadau ar y daith yn amherthnasol – o flaen yr arddanosfa leicra yn yr amgueddfa Olympaidd yn Lausanne. Ar y ffordd yn ôl mi stopion ni’n bws i gael golwg ar barc bythynnu mwya’r ddinas.
Doeddwn i ddim yn ‘hoyw’ ar y pryd, ond ro’n i wedi eillio hanner fy mhen efo bic, ac wrth i fi ymweld yn rheolaidd â’r gyngres ieuenctid LHDT+ oedd yn rhedeg ochr-yn-ochr â’r daith, roedd yn ddigon i greu chwerthin a chlochdar uchel ymysg rheiny oedd yn ei mynychu: “WHAT WAIT YOU ARE STRAAAIGHT?!!”.

Wrth i’r crop dyfu allan, mi ymwelon ni â Davos, i’r gwesty lle sgrifennwyd Magic Mountain, a lleoliad, ar y pryd, rhaglen realiti am fyw yn yr 19eg Ganrif. Mi flasais prosecco am y tro cyntaf yno, a chwrdd â dyn neis iawn o’r enw Maik Künz. Mae ei gerdyn busnes dal gen i yn rhywle.
Roeddwn i wedi bwriadu sgrifennu am y peth ers blynyddoedd, fy antur hoyw i’r Swisdir – ond digwyddodd rhywbeth anodd ar ddiwedd y daith a surodd pethe, braidd. Heb fynd i ormod i fanylion, mi alla i ddweud o leia fy mod ‘nawr yn berchennog ar ddwy gerdd o apologia mewn saesneg sathredig, o’r enw ‘Synthetic’ a ‘Synthetic 2′ gan ddyn hoyw o Rwmania. Dwi dal yn flin i fi golli’r noson wledd raclette o’i herwydd.
Efallai y daiff y daith i gyd mas rywdro, am nawr, dyna’r fersiwn gyflym, foglynnog. Gawn ni gloi efo epilog o ‘Synthetic':
I was able just to past the
Tall stalks and empty heads of
The sunflowers. THE sunflowers
Without a sun.
Without a flower.
The various composting methods people
Has devised
Feelings and burning icebergs
through the thick hedges
Of non-existence and… us.