Reit, nawr bod gen i rywle i gadw fy nodwyddau pan fyddan nhw’n cysgu, mae angen lle iddyn nhw orffwys pan fyddan nhw’n gweithio. Defnyddiais gotwm trwm a stwffin hen glustog 79p o Ikea i wneud clustog fach. Mae’r rhai Ikea yn mynd yn ddi-raen mor glou, dwi’n tueddu i’w dad-adeiladu a chadw’r cotwm ar gyfer seiliau cwilt, a chadw’r stwffin darniog i wneud teganau a phethau bach eraill.
Roedd y glustog fach yn edrych braidd yn ddiflas, felly ceisiais ymarfer cwpwl o bwythau allai fod yn ddefnyddiol yn y dyfodol. Canlyniad: tylluan-bincws.
Datganiad: dwi’n hollol rybish am bwytho botymau, ond dwi’n gwella. Unrhywbeth defnyddiol arall wedi’i ddysgu?
- • Penderfyna ar dy addurn cyn rhoi’r peth at ei gilydd, mi fydd yn lot haws i’w bwytho bryd hynny.