Skip to content

ffeminyddiaeth

Trafod Tabws ar Taro’r Post

Mi ges i ddau gais am gyfweliad gan y BBC ddoe, un yn gofyn imi drafod Winston Churchill, a’r llall yn gofyn i mi sôn am fislifau. Cewch ddarganfod pa un ddewises i fan hyn, ar y marc 50 munud: Taro’r Post.

Os fuoch chi’n gwrando, gobeithio i chi fwynhau – roedd yn gret gallu ychwanegu ‘periods’ at y rhestr amrywiol o bethe dwi wedi siarad amdanyn nhw ar y radio/teli yn ddiweddar (pêl droed pledren mochyn, hanes y lliw glas, pantomime dames, David Jones, hanes caethwasiaeth, ysbrydion, ymladd ceiliogod, trais yn erbyn menywod a sut i greu steil gwallt Tuduraidd – portffolio brith ond difyr).

Os oes diddordeb gennych chi yn y pwnc uchod, ‘y tabw olaf’ yn ôl y cyfryngau – ewch draw i wefan Period Positive i ddysgu rhagor am ymgyrchoedd dychmygus a doniol sy’n ceisio gwella safon addysg rhyw ac addysg iechyd mislif ym mhrydain.

Ewch draw i ‘Leak Chic’ i lawrlwytho ategolyn ffasiynol newydd, fel rhan o ymgyrch sy’n ceisio tynnu ar un o ofnau mwyaf sawl person ar ei mislif – y blotyn gwaed.

Os ydych chi ag awydd mentro i fyd ‘gwaedu amgen’, mae Holy Sponge yn gwerthu citiau mislif llawn sbwng môr, saets a swynau – neu os yw hynny’n ormod, efallai y bydd padiau cotwm neu cwpan fislif yn siwtio’n well.

Os, fel fi, ‘dych chi’n licio’r syniad o fod yn Fama Ddaear, ond bod clymau cywilydd dal chydig yn rhy dynn i adael i bopeth ‘hongian mas’, beth am gefnogi prosiect sy’n ceisio torri tabw go iawn: menywod sy ddim yn cael dewis o unrhyw nwyddau hylendid, oherwydd agweddau ceidwadol at fislif – rhai sy’n gorfod defnyddio carpiau neu ludw i gasglu’r gwaed oherwydd cost a phrinder nwyddau addas.

Cefnogwch y menywod ifanc sy’n credu taw salwch yw’r mislif, oherwydd diffyg addysg rhyw, sy’n ofn y mislif, ac yn cadw draw o’r ysgol un wythnos y mis oherwydd diffyg cyfleusterau saff. Mae Women on Wings yn darparu peiriannau gwneud padiau, ac addysg mislif mewn cymunedau ble mae gwir dabw yn niweidio iechyd a hyder menywod. Fel soniais i yn y cyfweliad – cysyniad yw’r tabw gafodd ei drafod yn y tabloids yr wythnos hon – felly beth am estyn y drafodaeth i’r byd go iawn, a’i ddefnyddio i wella ansawdd bywyd menywod yn wyneb y ‘tabw olaf’.

#blogydydd 2: baneri

Mae Sian Lile-Pastore a finne wedi bod yn gweithio ar brosiect cudd. Cawsom ein hysbrydoli gan faneri’r syffrajets, ac aethom ati i lunio baneri ein hunain, sydd yn cario enwau menywod. Mae pwytho enwau yn broses hir a myfyrdodol, felly yn raddol daeth yn gyfle i feddwl am hanes yr unigolyn – ac yn gyfle i ddathlu dysgu am hanes menyw o’r newydd. Mi allwch ddarllen mwy am y prosiect yn llyfr newydd Betsy Greer, sef Craftivism: The Art and Craft of Activism. Bydd y llyfr ar gael i’w brynnu yma yng Ngymru wythnos nesa, a mae’n llawn lluniau a chyfweliadau efo ymgyrchwyr gwneud o sawl cyfandir. Yn y cyfamser, dyma lun o rai o’n ffefrynnau:

Dorothy Edwards, awdur ac arloeswraig
Dorothy Edwards, awdur ac arloeswraig
baneri-1024x682
Credit llunia: Sian Lile-Pastore a fi!

Roeddwn i wedi gobeithio mynd â rhan o’n casgliad i Lundain yr haf hwn, i ddathlu Can-Mlwyddiant sefydlu’r East London Federation of Suffragettes yn yr East London Suffragette Festival. Mae’r wyl yn dathlu sefydliad oedd yn ymgyrchu dros hawliau menywod o bob cefndir cymdeithasol, ac yn benderfynol o wneud yn siwr fod taro pleidlais yn realiti i bob menyw – os gewch chi gyfle, ewch, mae’n mynd i fod yn ddiwrnod ffantastig.

Yn anffodus allwn ni ddim gwneud y siwrne eleni – fodd bynnag, parhau i bwytho fyddwn ni, gan obeithio y gallwn eu harddangos yng Nghymru haf nesa’.

‘Dyn ni’n gwybod cyn lleied am y teithiau ‘wnaeth y baneri cyntaf i Lundain, a mae darllen papurau newydd y cyfnod yn dangos cofnod anghyflawn o’r rhyngberthynas rhwng ymgyrchwragedd Lloegr â Chymru. Dwi wastad wedi licio’r llun hwn, o rali Pererindod Pleidleisiaeth ym 1913, ac yn chwilfrydig iawn am siwrne’r faner, a’r rhai a’i gwnaeth a’i chariodd, rhwng Caerdydd a Llundain.