Nodyn bach clou i roi gwybod i’r rhai ohonoch chi sy’n defnyddio Ravelry, fod gwlân o Drefach nawr ar gael ar y gronfa ddata! Gallwch dagio eich gwaith ac ychwanegu’r edafedd aran a dwbl i’ch rhith-stash.

cardigan gwlan amgueddfa

Dwi wedi bod yn creu cardigan yn defnyddio eu dafedd dwbl lliw melynaidd – fe lwythais i’r car efo’r stwff wedi i mi gynnal gweithdy cyfryngau cymdeithasol yno fis diwetha. Yn anffodus (?) ma dipyn o waith datod gen i i’w wneud dros y penwythnos.

Am y tro cynta, dwi di ymddiried yn llwyr mewn patrwm dillad confensiynol, a mae rhywbeth mawr wedi mynd o’i le! Y freuddwyd oedd i greu cardigan gynnes ar gyfer nosweithiau Gwyl y Dyn Gwyrdd.

O deimlo’r gwlân, dwi’n credu y byddai carthen neu fat llawr yn gweddu’n well i’r gwead ta beth. Dwi wedi bod yn chwilio’n ofer am batrwm addas, felly falle bydd rhaid jyst rhoi tro arni a gweld lle mae’r edafedd yn f’arwain i.

Ta waeth – cofiwch dagio’ch prosiectau, os ydych chi wedi defnyddio dafedd hanesyddol Drefach ar gyfer gweu a crosio! Os ‘dych chi am gael golwg ar y gwlân, mae rhagor ar siop arlein yr amgueddfa.

Ymwadiad: dwi’n gweithio i’r amgueddfa ond mae’n elusen a ma gweu yn hwyl, so.