[o’r archif] Un peth sy’n fy nghadw rhag dysgu go iawn o arbrofi gyda tecstiliau ydi’r brwgaitsh yn fy mag pwytho. Mae popeth yn teimlo fel ‘damwain hapus’, yn enwedig am fy mod byth a beunydd yn darganfod hen fotymau neu sgrapiau bach diddorol. Anfantais yw’r ffaith nad oes fyth nodwydd neu fotwm addas a normal pan dwi’u hangen nhw.
Yn ysbryd home ec, felly, y peth cyntaf i’w wneud wrth ail-drefnu’r bag oedd pwytho cadw-mi-nodwydd, i osgoi pigiadau annisgwyl tra’n chwilota am rywbeth arall. Aw! Mi geisiaf roi cynllun bras ar-lein o sut i wneud un pan gaf fi sleifio i ddefnyddio peiriant sganio mam fy nghariad.
Mae dysgu i ddefnyddio illustrator ar y rhestr, dwi’n addo. Er gwybodaeth, mae’r rhan fwyaf o’r deunyddiau dwi’n eu defnyddio wedi dod o siop lenni. Mae’n wastad werth gofyn os oes darnau/stoc ganddyn nhw tu cefn i’r cownter. Cefais dros 4 metr o gotwm trwm tro diwethaf, ar yr amod fy mod yn rhoi dwy bunt yn y bocs Marie Curie wrth y til. Chware teg! Gwersi amlycaf?
- #1 Mesur deirgwaith, torri unwaith.
- #2 Dwi angen sialc teiliwr, dydy Sharpie ddim yn gwneud yr un job.