Skip to content

brodio

#blogydydd 7: tâl teg i weithwyr masnach

Mae gan ran-ddeiliaid M+S gyfle’r wythnos hon i wneud gwahaniaeth i fywydau eu staff, ac i arwain y gad o ran talu ‘tâl byw’ yn y sector fanwerthu. Mae 11.5% o gartrefi Cymru o dan dlodi gwaith – oherwydd tâl isel neu gontractau 0 awr, felly dyma geisio gweithredu i argyhoeddi M+S i roi tâl teg i’w gweithwyr ar hyd a lled Cymru.

Yr wythnos ddiwetha, fe fues i’n cymryd rhan mewn gweithred fechan yng Nghanol Caerdydd:

 

menywod yn pwytho yn gyhoeddus
Pwytho o flaen M+S yng Nghaerdydd, fel rhan o Craftivists Caerdydd, ac o dan arweiniad Craftivist Collective. Llun gan Polly Braden

 

Fe fuom ni’n brodio hancesi efo negeseuon i’r cyfranddalwyr – yn oes deiseb-glicio (a does dim yn bod ar hynny), mae creu gwrthrych feddylgar yn creu dipyn o argraff, a mae’r Craftivist Collective wedi bod yn anfon llythyrau brodio at ASau a ffigyrau cyhoeddus eraill ers tro. Ro’n i’n falch iawn o fod yn rhan o’r weithred, ac yn falch o gwrdd â phobl newydd, yn ogystal â phobl sydd wedi dod i weu yn dawel efo fi yn y gorffennol – yn enwedig am i fi ddysgu beth oedd eu henwau tro yma!

Cefnogwch yr ymgyrch wrth drydar, rhannu linc ein partner, ShareAction; codi ymwybyddiaeth, rhannu’r lluniau o flickr Craftivist Collective. Mae citiau ymgyrch, bathodynnau a’r llyfrau ar eu gwefan yn cefnogi gwaith Sarah, sy’n cydlynu gweithredoedd ar hyd Cymru, Lloegr a’r Alban, ac yn dod â ni at ein gilydd o bryd i’w gilydd i greu a, gobeithio, gwneud gwahaniaeth.

#blogydydd 5: y berllan

Wax, Straws and Gum,
Silks, Gems, and Gold, the total sum
Of rich materials she disposed
In dainty order, and composed
Pictures of men, birds, beasts, and flowers,
When leisure served at idle hours.
All this so rarely to the Life,
As if there were a kind of strife,
‘Twixt Art and Nature: Trees of fruits
With leaves, boughs, branches, body, roots,
She made to grow in Winter time,
Ripe to the eye, easy to climb.

John Bathchiler – “The Virgin’s Pattern” – marwnad Susanna Perwich (m. 1661)

Gardd Eden, Lloegr, 1500au hwyr (h) Met Museum

Gardd Eden, Lloegr, 1500au hwyr (h) Met Museum

Dw i wedi bod yn casglu delweddau wedi’u hysbrydoli gan y bennill uchod ar fy mhinterest. Cer i sbecian!

#blogydydd 2: baneri

Mae Sian Lile-Pastore a finne wedi bod yn gweithio ar brosiect cudd. Cawsom ein hysbrydoli gan faneri’r syffrajets, ac aethom ati i lunio baneri ein hunain, sydd yn cario enwau menywod. Mae pwytho enwau yn broses hir a myfyrdodol, felly yn raddol daeth yn gyfle i feddwl am hanes yr unigolyn – ac yn gyfle i ddathlu dysgu am hanes menyw o’r newydd. Mi allwch ddarllen mwy am y prosiect yn llyfr newydd Betsy Greer, sef Craftivism: The Art and Craft of Activism. Bydd y llyfr ar gael i’w brynnu yma yng Ngymru wythnos nesa, a mae’n llawn lluniau a chyfweliadau efo ymgyrchwyr gwneud o sawl cyfandir. Yn y cyfamser, dyma lun o rai o’n ffefrynnau:

Dorothy Edwards, awdur ac arloeswraig
Dorothy Edwards, awdur ac arloeswraig
baneri-1024x682
Credit llunia: Sian Lile-Pastore a fi!

Roeddwn i wedi gobeithio mynd â rhan o’n casgliad i Lundain yr haf hwn, i ddathlu Can-Mlwyddiant sefydlu’r East London Federation of Suffragettes yn yr East London Suffragette Festival. Mae’r wyl yn dathlu sefydliad oedd yn ymgyrchu dros hawliau menywod o bob cefndir cymdeithasol, ac yn benderfynol o wneud yn siwr fod taro pleidlais yn realiti i bob menyw – os gewch chi gyfle, ewch, mae’n mynd i fod yn ddiwrnod ffantastig.

Yn anffodus allwn ni ddim gwneud y siwrne eleni – fodd bynnag, parhau i bwytho fyddwn ni, gan obeithio y gallwn eu harddangos yng Nghymru haf nesa’.

‘Dyn ni’n gwybod cyn lleied am y teithiau ‘wnaeth y baneri cyntaf i Lundain, a mae darllen papurau newydd y cyfnod yn dangos cofnod anghyflawn o’r rhyngberthynas rhwng ymgyrchwragedd Lloegr â Chymru. Dwi wastad wedi licio’r llun hwn, o rali Pererindod Pleidleisiaeth ym 1913, ac yn chwilfrydig iawn am siwrne’r faner, a’r rhai a’i gwnaeth a’i chariodd, rhwng Caerdydd a Llundain.

Addunedu

2014-01-02-12.04.21-2-1024x682

Mae 2014 yn mynd i fod yn llawn o brosiectau brodio, felly dyma ddechrau ystwytho fy mysedd efo adduned. Neu, oleia, parhad o adduned. Mae casau dy gorff yn ffurf arbennig o hunan-artaith, a’r adeg yma o’r flwyddyn gwna sawl un elw mawr yn ei annog. Mae wastad yn werth cofio, er enghraifft, fod y cwmni sydd yn cynhyrchu Slim Fast -Unilever- hefyd yn berchennog ar Ben + Jerry’s.

Dwi’n dyheu i fod yn fwy iachus, a dwi’n aros yn eiddgar -ers chwe mlynedd, nawr- am lawdriniaeth fydd yn cyfrannu at hynny. Ond dwi ddim wastad di bod yn gyfforddus iawn yn fy siwt o groen, bloneg a stwff. Dwi’n ddiolchgar, felly, am flogie fel rhai Lindy West, Kate Harding a nifer o dymblrs ardderchog ar y pwnc a elwid ‘fat acceptance’. Mae’n derm braidd yn AA-aidd, ond tu hwnt iddo mae na lwyth o sgwennu a thrafodaeth dda.

Mae hynny wedi rhoi cyfle ifi ddod yn llawer mwy diolchgar am fy nghorff abl, tew, prydferth. Fe gariodd fi trwy 2013 – blwyddyn shiti os y buodd un erioed – a dwi’n addunedu i’w pharchu drwy 2014.