
Ar ôl sgarmes ysgafn efo llyfrau Ladyb1rd, mae We Go to the Gallery ar gael o’r diwedd. Mae’n llawlyfr heb-ei-ail os ydych chi eisiau magu hyder cyn mentro i mewn i oriel gelf, neu eisiau dweud pethau priodol a chlyfar pan yn cadw cwmpeini dosbarth canol. Ar ôl blynyddoedd* o geisio cyflwyno’r casgliad cenedlaethol mewn ffordd afaelgar ac hygyrch: gallaf weld nawr fod fy ymdrechion wedi bod yn ofer.
Mae’r llyfr hwn yn canolbwyntio ar gelf cyfoes, ond dwi’n gobeithio’n wir y bydd Dungbeetle yn cyhoeddi rhagor yn y gyfres, efallai gan ddechre gydag arddangosfeydd cyfarpar tocio (RIP Arddangosfa Cyfarpar Tocio Sain Ffagan). Galli rag-archebu’r llyfr ar wefan Dungbeetle Books, cwmni hanesyddol sydd nawr o dan ofal y comedian Miriam Elia.
-O ddifri ddo, pan o’n i’n arfer dysgu hanes pensaernïol a sut i ddarllen adeiladau, roedd y llyfre gwreiddiol Ladybird yn esbonio sut i fynd ati yn fwy eglur nag unrhyw lyfr arall. Maen nhw’n drysorau.
* Ges i ebost ddoe gan l1nkedin. Pen Blwydd Amgueddfa Hapus i Fi!