Skip to content

haf

Creu Amgueddfa Ar Hap

Wel. Mae’r East End Women’s Museum yn bodoli rwan. Ymateb wnes i a Sarah Jackson i stori’r Amgueddfa Jack The Ripper ar Cable Street yn nwyrain Llundain.

O fewn wythnos, mi oedd dros 600 o bobl wedi ymuno â ni i helpu. Roedd ebyst yn fflio gan yr Independent, y New York Times, a phapurau newydd yn Tsieina – oll isie gwybod mwy am y prosiect.

Mewn gwirionedd, pobl dwyrain Llundain fydd yn rhoi siâp ar y peth – fe fyddwn ni’n cwrdd fel tîm am y tro cynta mewn pythefnos, er mwyn gosod cynllun yn ei le. Mae rheoli 600 o wirfoddolwyr yn swydd ynddo’i hun! Mae’n fflipin sgêri, ond mae na gymaint o dalent ac ewyllys da yn y grwp, dwi’n ffyddiog y byddwn ni’n creu rhywbeth gwerth chweil.

Os hoffech chi ddysgu mwy, ewch i’n gwefan, dilynwch ni ar facebook neu twitter.

 

Patrwm: Ffabrig Cymdeithasol

Ydych chi’n teimlo fel gosod neges hardd rywle yn eich ardal chi, i ddangos bod y gymraeg yn rhan o ‘ffabrig cymdeithasol’ ein prifddinas?

Wel hwde!

Dyma batrwm syml ichi (wedi’i wneud efo stitchpoint):

Patrwm Ffabrig Cymdeithasol

 

Heb wneud pwyth croes o’r blaen ond ffansi rhoi tro arni? Mae Sarah o Craftivist Collective yn gwerthu citiau bach, sy’n cynnwys yr holl ddeunyddiau a chyfarwyddiadau – a mae’r elw o’u gwerthu yn mynd at ariannu ymgyrchoedd sy’n targedu e.e. tlodi gwaith, llafur chwys a llygredd.

Prynwch:

Llun h. Craftivist Collective
Llun h. Craftivist Collective

 

 

Arwr Gwneud #1: Olivia Quail

Dyma fodel o ‘Bryn’ a wnaethpwyd gan Olivia Quail, sy’n 82. Mae’n coffáu y cymeriad o’r ffilm Pride, a seiliwyd ar ei mab, Gethin Roberts.

'Bryn' gan Olivia Quail

Roedd o ar y stand efo ni yn Balchder Cymru rhyw gwpwl o wythnosau yn ôl, fel rhan o arddangosfa am hanes LGSM.

Manylion craff..
Manylion craff..

O’n i wrth fy modd efo’r manylion bach, yn enwedig y pwps aderyn. Am waith hyfryd, anarferol, a bach yn cripi! (y drindod crefft a gwneud)

Baneri a Ballu

Chwyldro

Ges i gic yn fy nhin gan set Gwenno yn y Dyn Gwyrdd, felly fues i’n pwytho hwn dros y penwythnos – oedd na lot o eiste yn y babell. Wnes i ddim meddwl lot am y cynllun cyn ei ddechre, felly mater o gyfri llawrydd ac ailadrodd mewn coch 666 oedd creu y faner fach.

Ar ôl cyrraedd adre, mi gariais i ‘mlaen efo’r pwyth croes – dwi heb afael mewn darn ohono ers sbel. Mae’n od fel ma pethe’n eistedd yn y drôr am gyhyd ac yn sydyn chwap! Ma nhw i gyd wedi’u gorffen. Mi wnes waith clou o sampler Llwybr Llaethog (sampler! hehe!) – mae’r un gwreiddiol yn eu meddiant nhw erbyn hyn, ond drafft anorffenedig oedd hwn, oedd un pwyth yn rhy fyr.

Baner Dull Di Drais

A fel mae’r pethe ma’n gweithio, ble mae’r dwylo’n mynd mae’r meddwl yn eu dilyn. Pan glywais i fod pennaeth cyngor Caerdydd wedi honni nad yw’r gymraeg yn rhan o ‘ffabrig cymdeithasol’ y ddinas? RHY HAWDD PHIL. Mi ddechreuais ddrafftio gwahanol syniadau yn defnyddio papur graff ac adobe shape.

Ffabrig Cymdeithasol

Mi wnai bostio patrwm cyn bo hir, ar hyn o bryd dwi’n cadw mysedd yn brysur yn creu ac yn cynllwynio…

Ffabrig Cymdeithasol

blogydydd 9: Dŵr

Llyn Genefa

Wel, dwi’n hwyr efo sialens #pocketsizedprojects, ond ddim bob dydd ti’n trio gwerthu tŷ. Y thema ddoe oedd dŵr, ac wrth i fi lusgo trwy dropbox yn chwilio am rywbeth a wnai’r tro, fe sylwais i nad ydw i’n tynnu llawer o luniau o ddŵr o gwbl!

-Er fy mod yn cael f’atynnu at fy pwnc pan yn sgrifennu, ac yn y cigfyd hefyd – anaml y bydda i’n croesi’r afon Taf heb stopio i edrych ar liw a lefel y dŵr, beth sy’n nofio arni ac yn llifo trwyddi. Mae fel brwyn yn stori March ap Meirchion (sydd hefyd yn rywbeth sy’n ymddangos yn amlach na pheidio pan fydda i’n sgrifennu’n rhydd): dwi’n hoffi sibrwd yr hyn sy’n fy mhoeni i’r afon, neu gyfri fy mendithion fesul diferyn ar y bont wrth y castell.

Llun o’r llyn yn Genefa sydd uchod – eto wedi’i gymryd oddi ar hen gamera lluchio. Ro’n i’n credu am flynyddoedd fod arteffactau’r trip hwnnw ar goll, ond daeth cd-rom i’r fei yn ddiweddar, pan oeddwn i’n clirio’r tŷ ar ôl darllen KonMari.

Mi ges bythefnos o fod yn westai bwrdd twristiaeth y Swisdir a Liechtenstein yn y 00au, yn adrodd ar nodweddion twristaidd y gwledydd hynny, yn arbennig yr rheiny fyddai’n apelio at deithwyr LHDT+.

Efallai i fi gam-gynrychioli fy enwogrwydd fel newyddiadurwraig pan yn gneud cais am fy nhocyn, a roddod basport dosbart 1af ifi i deithio ar eu rheilffyrdd, ac i aros mewn gwestai pum seren mewn dinasoedd a phentrefi mynyddig.

mae'n debyg bod y tywysog yn rhedeg yn droednoeth ymysg y grawnwin bob bore
mae’n debyg bod y tywysog yn rhedeg yn droednoeth ymysg y grawnwin bob bore

Fe ymwelon ni â gwinllan bersonol Tywysog Liechtenstein; canolfan heboga; arddangosfa gelf Dada; cyfnewidfaoedd nodwydd; clybiau; bwytai a chanolfannau cymorth cymdeithasol.

Bu bron â bod miwtini ar y daith, ymysg ‘newyddiadurwyr’ ‘go iawn’ oedd hefyd ‘actiwali yn hoyw’ – am fod rhai o’r lleoliadau ar y daith yn amherthnasol – o flaen yr arddanosfa leicra yn yr amgueddfa Olympaidd yn Lausanne. Ar y ffordd yn ôl mi stopion ni’n bws i gael golwg ar barc bythynnu mwya’r ddinas.

Doeddwn i ddim yn ‘hoyw’ ar y pryd, ond ro’n i wedi eillio hanner fy mhen efo bic, ac wrth i fi ymweld yn rheolaidd â’r gyngres ieuenctid LHDT+ oedd yn rhedeg ochr-yn-ochr â’r daith, roedd yn ddigon i greu chwerthin a chlochdar uchel ymysg rheiny oedd yn ei mynychu: “WHAT WAIT YOU ARE STRAAAIGHT?!!”.

ma pethe yn gwella, sara o'r gorffennol. Ond ma heddi'n mynd i fod yn ddiwrnod arbennig o dda.
ma pethe YN gwella, sara o’r gorffennol. Ond ma heddi’n mynd i fod yn ddiwrnod arbennig o dda.

Wrth i’r crop dyfu allan, mi ymwelon ni â Davos, i’r gwesty lle sgrifennwyd Magic Mountain, a lleoliad, ar y pryd, rhaglen realiti am fyw yn yr 19eg Ganrif. Mi flasais prosecco am y tro cyntaf yno, a chwrdd â dyn neis iawn o’r enw Maik Künz. Mae ei gerdyn busnes dal gen i yn rhywle.

Roeddwn i wedi bwriadu sgrifennu am y peth ers blynyddoedd, fy antur hoyw i’r Swisdir – ond digwyddodd rhywbeth anodd ar ddiwedd y daith a surodd pethe, braidd. Heb fynd i ormod i fanylion, mi alla i ddweud o leia fy mod ‘nawr yn berchennog ar ddwy gerdd o apologia mewn saesneg sathredig, o’r enw ‘Synthetic’ a ‘Synthetic 2′ gan ddyn hoyw o Rwmania. Dwi dal yn flin i fi golli’r noson wledd raclette o’i herwydd.

Efallai y daiff y daith i gyd mas rywdro, am nawr, dyna’r fersiwn gyflym, foglynnog. Gawn ni gloi efo epilog o ‘Synthetic':

I was able just to past the

Tall stalks and empty heads of

The sunflowers. THE sunflowers

Without a sun.

Without a flower.

The various composting methods people

Has devised

Feelings and burning icebergs

through the thick hedges

Of non-existence and… us.

Pethe alli di neud pan ma dy gariad lawr stâr yn sgrifennu datganiad artist ar y cyd efo rhywun arall

Bwyta caws

Gwylio Community

Ceisio dod i ddeall be sy’n digwydd i S4C

Digalonni achos ma’r holl beth yn rhy depressing

Gwrando trwy ffenest agored ar y dynion yn ymolchi yn y mosg

Recordio coeden yn siglo yn y gwynt ar dy ffôn

Plygu blancedi

Rhoi nifer o ddiferion gwahanol yn dy lygaid

Yfed gwin pefriog

Edrych ar brosiect gweu ar ei hanner a meddwl am gychwyn arni

Ceisio meddwl i ble aeth y llyfr Tarot

Tynnu dy fra