Elfen o bwer gwneud â llaw yw ei allu i dawelu’r meddwl, i ymgysylltu â gweddill y corff pan fyddaf yn byw yn fy atig/mrêns, pan fydd honno’n llawn meddyliau cras, byrlymus neu niweidiol. Mae’n estyn a chryfhau amynedd fatha chyhyr, wrth ifi ddad-wneud camgymeriadau, dro ar ôl tro, a thrio eto.