Mae Sian Lile-Pastore a finne wedi bod yn gweithio ar brosiect cudd. Cawsom ein hysbrydoli gan faneri’r syffrajets, ac aethom ati i lunio baneri ein hunain, sydd yn cario enwau menywod. Mae pwytho enwau yn broses hir a myfyrdodol, felly yn raddol daeth yn gyfle i feddwl am hanes yr unigolyn – ac yn gyfle i ddathlu dysgu am hanes menyw o’r newydd. Mi allwch ddarllen mwy am y prosiect yn llyfr newydd Betsy Greer, sef Craftivism: The Art and Craft of Activism. Bydd y llyfr ar gael i’w brynnu yma yng Ngymru wythnos nesa, a mae’n llawn lluniau a chyfweliadau efo ymgyrchwyr gwneud o sawl cyfandir. Yn y cyfamser, dyma lun o rai o’n ffefrynnau:

Dorothy Edwards, awdur ac arloeswraig
Dorothy Edwards, awdur ac arloeswraig
baneri-1024x682
Credit llunia: Sian Lile-Pastore a fi!

Roeddwn i wedi gobeithio mynd â rhan o’n casgliad i Lundain yr haf hwn, i ddathlu Can-Mlwyddiant sefydlu’r East London Federation of Suffragettes yn yr East London Suffragette Festival. Mae’r wyl yn dathlu sefydliad oedd yn ymgyrchu dros hawliau menywod o bob cefndir cymdeithasol, ac yn benderfynol o wneud yn siwr fod taro pleidlais yn realiti i bob menyw – os gewch chi gyfle, ewch, mae’n mynd i fod yn ddiwrnod ffantastig.

Yn anffodus allwn ni ddim gwneud y siwrne eleni – fodd bynnag, parhau i bwytho fyddwn ni, gan obeithio y gallwn eu harddangos yng Nghymru haf nesa’.

‘Dyn ni’n gwybod cyn lleied am y teithiau ‘wnaeth y baneri cyntaf i Lundain, a mae darllen papurau newydd y cyfnod yn dangos cofnod anghyflawn o’r rhyngberthynas rhwng ymgyrchwragedd Lloegr â Chymru. Dwi wastad wedi licio’r llun hwn, o rali Pererindod Pleidleisiaeth ym 1913, ac yn chwilfrydig iawn am siwrne’r faner, a’r rhai a’i gwnaeth a’i chariodd, rhwng Caerdydd a Llundain.