Gorffennwyd #1 Wedi bod yn chware efo ap phonto (y llun gwaelod sydd agosa o ran lliw go-iawn). A gneud clustog i swatio arno! Hwre!
Swatio Dwi dal ddim yn gallu cnesu. Dwi wedi bod allan yn tywys pobol ogwmpas drwy’r wythnos a mae’r oerfel ym mêr fy esgyrn.Ar ei hanner mae’r flanced ‘ma, a mae angen ei blocio, ond pwff dwi am guddio o dani.