Skip to content

stwff gwaith

Arwr Gwneud #1: Olivia Quail

Dyma fodel o ‘Bryn’ a wnaethpwyd gan Olivia Quail, sy’n 82. Mae’n coffáu y cymeriad o’r ffilm Pride, a seiliwyd ar ei mab, Gethin Roberts.

'Bryn' gan Olivia Quail

Roedd o ar y stand efo ni yn Balchder Cymru rhyw gwpwl o wythnosau yn ôl, fel rhan o arddangosfa am hanes LGSM.

Manylion craff..
Manylion craff..

O’n i wrth fy modd efo’r manylion bach, yn enwedig y pwps aderyn. Am waith hyfryd, anarferol, a bach yn cripi! (y drindod crefft a gwneud)

#blogydydd 2: gwlân Drefach ar Ravelry

Nodyn bach clou i roi gwybod i’r rhai ohonoch chi sy’n defnyddio Ravelry, fod gwlân o Drefach nawr ar gael ar y gronfa ddata! Gallwch dagio eich gwaith ac ychwanegu’r edafedd aran a dwbl i’ch rhith-stash.

cardigan gwlan amgueddfa

Dwi wedi bod yn creu cardigan yn defnyddio eu dafedd dwbl lliw melynaidd – fe lwythais i’r car efo’r stwff wedi i mi gynnal gweithdy cyfryngau cymdeithasol yno fis diwetha. Yn anffodus (?) ma dipyn o waith datod gen i i’w wneud dros y penwythnos.

Am y tro cynta, dwi di ymddiried yn llwyr mewn patrwm dillad confensiynol, a mae rhywbeth mawr wedi mynd o’i le! Y freuddwyd oedd i greu cardigan gynnes ar gyfer nosweithiau Gwyl y Dyn Gwyrdd.

O deimlo’r gwlân, dwi’n credu y byddai carthen neu fat llawr yn gweddu’n well i’r gwead ta beth. Dwi wedi bod yn chwilio’n ofer am batrwm addas, felly falle bydd rhaid jyst rhoi tro arni a gweld lle mae’r edafedd yn f’arwain i.

Ta waeth – cofiwch dagio’ch prosiectau, os ydych chi wedi defnyddio dafedd hanesyddol Drefach ar gyfer gweu a crosio! Os ‘dych chi am gael golwg ar y gwlân, mae rhagor ar siop arlein yr amgueddfa.

Ymwadiad: dwi’n gweithio i’r amgueddfa ond mae’n elusen a ma gweu yn hwyl, so.

Gwneud yn Gymraeg

Noswaith dda. Gobeithio bo chi heb fod yn dal eich gwynt ers y post diwethaf.

10 pwynt blogio i bawb !
10 pwynt blogio i bawb !

Dw i wedi bod yn brysur yn gwneud – gan fynd ‘tu hwnt i’r sgwâr’ i greu ambell i ddilledyn. Ond prin dwi wedi bod yn stopio i’w cofnodi, heblaw am ambell i beth ar instagram. Dw i hefyd wedi bod yn brysur iawn efo’r gwaith, a wedi mwynhau gweithio efo trydarwyr yr amgueddfa – un o fy hoff brosiectau ar hyn o bryd ydi @DyddiadurKate, sy’n ddogfen ffantastig am hanes menyw a’i chynefin ym 1915. Beth ydych chi wedi bod wrthi yn ei wneud?

Cardigan i Greta fach, wedi’i chrosio mewn ‘dafedd Snuggly DK, lliw ‘pixie’
Cardigan i Greta fach, wedi’i chrosio mewn ‘dafedd Snuggly DK, lliw ‘pixie’
Sgarff gron ‘Autumn Sunset’ o Moogly wedi’i chrosio mewn dafedd Sirdar ‘Country Style’
Sgarff gron ‘Autumn Sunset’ o Moogly wedi’i chrosio mewn dafedd Sirdar ‘Country Style’
Hanner maneg crosio tapestri, yn defnyddio’r patrwm ‘Black and White Mittens’ o ravelry.
Hanner maneg crosio tapestri, yn defnyddio’r patrwm ‘Black and White Mittens’ o ravelry.

Y tro hwn ddefnyddies i ddafedd ‘Wash and Wear’ Os ydych chi’n defnyddio ravelry o gwbl, mi ddowch o hyd i fi yn fama: huws. Mi fyddai’n gret gweld pa fath o brosiectau sydd gan bobl ar y gweill (ohohoo), ac i gael chydig o ysbrydoliaeth gan bobl sy’n gwneud yn Gymraeg!