Wel am slepjan o ddiwrnod. Dingiwyd y car; torrwyd y ffôn; pelydrwyd yr x. Profodd y profion yn, erm, inconclusive? O’n i’n barod i dorri’n deilchion ar ôl cau drws y ffrynt, tan i fi weld hwn. Bydd popeth yn iawn.
Wel am slepjan o ddiwrnod. Dingiwyd y car; torrwyd y ffôn; pelydrwyd yr x. Profodd y profion yn, erm, inconclusive? O’n i’n barod i dorri’n deilchion ar ôl cau drws y ffrynt, tan i fi weld hwn. Bydd popeth yn iawn.
Postcard from the Party
You have to be invited, and there’s nothing
you can do to be asked. Headlines and bloodlines
don’t help. It’s a long way from home but I’m
here, the view much better than I’m used to.
How did this happen? Dumb but good luck,
right place and time, the planets aligned.
No contract, no deadline, no risk. And what
did I do to deserve this? Slept with all
the wrong people, gambled too much on friends
of friends with light bulbs over their heads.
Wrote every day no matter what.Wyn Cooper
Postcards from the Interior
BOA Editions, Ltd.
Un peth sydd wedi bod yn fy nghadw yn ddiddan tra ‘mod i’n gwella ydi sgrifennu. Dwi’n cofio darllen y bennill uchod a theimlo fod y llinell ola yn smyg, yn afreal, ac yn rywbeth llawer yn rhy foethus i fod yn rhywbeth allwn i fyth ei wneud.
Roedd yn rhan o’r post gwych yma ar Captain Awkward: Falling Out of Love with your creative work and Losing Momentum – ac am amser maith – am ddegawd, rili, cenfigennus o’n i o bobl oedd yn gallu sgrifennu’n hawdd. Neu rhyw gymysgedd o edmygedd o chenfigen, falle. Roedd tudalen wag mor rymus y gallai hi fy ngwneud yn sic, yn ddagreuol, llawn panic. Ond, rywle ar hyd y daith at wellhad corfforol, mi ddysgais i sgrifennu, heb ddarllen yn ôl, yn gyflym a than bod gen i focseidiau o lyfrau nodiadau. Tua mis ar ôl fy llawdriniaeth, mi ges fy nenu at lyfr Julia Cameron ar y silff. Mae’n lyfr enwog, hollol Galiffornaidd, o’r enw ‘The Artist’s Way’ – ond am fod yr amser gen i, ac am fy mod yn teimlo’n well, mi gydiais ynddo a dechre’r ‘Morning Pages’.
Tair ochr tudalen, bob bore, pan fydd cwsg dal yn dy lygaid a’r isymwybod wedi hanner-plymio ‘nôl i’r eigion. Un sgil-effaith fy llawdriniaeth yw fy mod yn breuddwydio bob nos erbyn hyn – felly roedd deffro’n llawn cysgodion straeon yn deimlad cyffrous, newydd. ‘Dyw’r tudalennau ddim i’w darllen, nag i’w rhannu. Yn araf bach, fel ymarfer cyhyr, daeth sgrifennu bob dydd yn rywbeth rhwydd, diddorol a buddiol. Mae’r Tudalennau Bore yn clirio brwgaitsh. Ar gyfer sgrifennu a darlunio creadigol, mae’n well gen i ddefnyddio techneg amgyffred delwedd Lynda Barry (sy wastad yn dweud pethe call ac ysbrydoledig am greadigrwydd, ac yn gyfrifol am y comic GWYCH Marlys). Ond heb y Tudalennau Bore, mae’n hawdd hel meddyliau yng nghanol stori dda, neu ddechre poeni am gost yswiriant car, pwysau bywyd, be sy yn y ffrij. Mae Lynda Barry yn defnyddio darlun o dderyn marw i ddisgrifio naws y math hwnnw o ymdrech, achos ma hi’n wych yn delweddu pethe.
Os ydych chi’n teimlo fel rhoi tro ar sgrifennu’n y bore, gallwch drio, heb wynebu’r dudalen wag, gan ddefnyddio gwefan 750words.
Felly, beth am estyn y Tudalennau Bore a chreu Blog Gyda’r Nos? Diolch i nwdls, fel arfer, am y sbardun!
Jyst isio clymu cwpwl o bethe at ei gilydd cyn iddyn nhw ddatod go iawn. Mae pethe’n dechre ar noson y pumed, pan ma Mark Steel yn trydar yr n-fed jôc am ddiffyg llafariaid yn y gymraeg. Hoho! Dyn enwog asgell chwith yn lluchio lleiafrif i’r llewod i gael laff ddiog? Sgêrsli bylîf. Fel lesbian dew gymreig, dwi’n ysu i glywed mwy o rheiny! Ges i hwyl yn trydar yn ôl ac ymlaen efo pobol, y tro cyntaf i mi wneud yn iawn ers dod oddi ar y tabledi lladd poen oedd yn gwneud unrhyw gyfraniad at y cyfryngau torfol yn risg enfawr, fflyffi. Y bore wedyn, penderfynais fentro o’r ty. Dw i wedi bod ynddo ers cyhyd, fod hyd yn oed y sgyrtins yn lân, a’r gwahoddiad i gwrdd â nghariad ym maes parcio Castell Coch i gasglu gazebo yn un cyffrous iawn.
Fel rheol, yr amser gore i weld unrhyw fath o heneb (un efo ffenestri yn enwedig) ydi cyn 10 – mae’r golau ar ei orau, a does dim cymaint o bobl o gwmpas. Mae’n llawer haws ymgolli mewn stori neu ffantasi wrth grwydro’r llefydd ‘ma pan fyddan nhw’n llonydd. Nai fyth anghofio dringo tyrrau Castell Dinefwr ben bore, ryw ddeng mlynedd yn ôl, heb neb o gwmpas o gwbl. Roedd yn foment o oleuni a rhyddid llwyr yng nghanol blwyddyn dywyll iawn i mi. Felly, mi gydiais y gwahoddiad i ymweld â Chastell Coch, ac wrth i mi gerdded ar hyd y bont trwy’r porth, ro’n i’n dal i feddwl am drydar y noson cynt.
Mi anfonais hwn. Y syniad oedd gen i wrth drydar oedd yr un math o beth a sydd wedi digwydd i Gastell Coch – rhyw ail-wampiad lled-ganoloesol, rhyw atgyfnerthu gwirion a mympwyol. Rhywbeth sy ddim yn hollol ffwythiannol. Ffoli gyfrin fyddai’n sticio dau fys at bawb sydd wedi, ac yn parhau i ddibynnu ar y ffaith bod y gymraeg yn edrych a swnion’n /ffyni/ – a’n cymryd bod hynny’n ddigon o ddeunydd ar gyfer jôc (ar ôl jôc ar ôl…). Fel gwetws Tyrion Lannister, fy hoff gymeriad lled-ganoloesol cyfredol:
“Let me give you some advice, bastard: Never forget what you are. The rest of the world will not. Wear it like armor, and it can never be used to hurt you.”
Pam eistedd adre yn trydar yn ymatebol pan alla i ddefnyddio’r achlysur i f’ysbrydoli? Wrth i fi symud o gwmpas yr adeilad, roedd fy ffôn yn crynnu efo ymatebion ac yn torri ar dawelwch yr ystafelloedd crand.
Roedd yn galonogol gweld pobol yn cyffroi, a daeth amryw o bethe at ei gilydd i mi, wrth ifi droelli i fyny ac i lawr y twr.
Dw i wedi bod yn chwarae efo’r cysyniad o ‘Coal Punk’ ers dros flwyddyn nawr, ond gan mai sgrifennu at fy mhleser fy hun wna i gan amla erbyn hyn, do’ni ddim yn siwr os oedd o’n cyfri fel genre am bo fi heb gyhoeddi dim. Felly dyma ryddhau’r peth, fel bo pobol eraill yn gallu cael tro arni.
Egin y syniad oedd edrych ar elfennau colonaidd ac ôl-golonaidd (god ma hwnna’n air mor fudur yn gymraeg! oes na un gwell?) steampunk – dwi’n meddwl am Nemo yn y ffilm League of Extraordinary Gentlemen, a’r tueddiad i anwybyddu gorthrwm ac artaith yr ymerodraeth yn enw adloniant a top hats efo clociau arnyn nhw. Yn yr un modd a ma the-great-british-cup-cake-io diwylliant y 1930-1950au wedi lluchio llwyth o siwgr eisin dros gyfnod o ryfel, hiliaeth, homoffobia, casineb at ferched ac ati, mae Steampunk yn dueddol o fod yn genre ‘gwyn’ iawn, rhywbeth sy’n dathlu’r mecanyddol ac yn creu ffetish o waith llaw ‘cyn-ddiwydiannol’. Y syniad ein bod ni rywsut yn well, yn lanach, yn glyfrach na phobol y gorffennol (a phobol sy’n byw mewn ffyrdd ‘cyntefig’) – ein bod *Ni-efo-N-fawr-chwinc-chwinc* wastad am fod yma, fod y graff yn saethu i fyny’n stedi wrth i ‘ni’ anelu am y sêr. Mae’n gysyniad Fictoriaidd sy’n fy nghyfareddu, ac un o’r rhesymau dwi’n licio mynwenta shwt gymaint: ma beddau’r bobol ma’n anhygoel: Narsisistiaeth Hanesyddol ar ei anterth.
A dyma’r syniad yn codi drwy fy esgyrn at fy nghlustiau: os oes stêm, ma na lo, reit? Ma sylwebwyr gwe ar erthyglau boring am Gymru ar y guardian yn ffond iawn o’n hatgoffa fod yr ymerodraeth wedi’i yrru gan lo cymreig, a’i reibiwyd o’n mamwlad. Wel, tra bod yr ymerodraeth yn ymchwyddo dros gartrefi a diwylliannau ar draws y byd, be *oedd* yn digwydd yng Nghymru?
Lle gei di ddarlun gwell o gartre direidyn sgwbi-dw-aidd na fan hyn? Beth yw Coalpunk i fi: straeon ar y ffîn, rhwng y mecanyddu, allforio, rhwng y cogs. Nid stori’r mwynau, na’r teuluoedd cyfoethog, ond dychmygu’r ffrontier yn Ne Cymru. Yr economi lwyd, wrth i bobl o bob cwr symud i weithio yn y mwyngloddiau, a’u anghenion gwahanol. Yr ieithoedd gwahanol, y swn, y bywyd bob dydd. Y plant, y dyfeisgarwch a’r llwch. Cyffro a pherygl boom towns. Yr rhai sy’n eu rheoli, eu gorthrymu, a’r rhai sy’n goroesi. Cyfnewid, bargeinio, osgoi cael dy sathru, a thrasiedi gorfforol y math o lafur fyddai’n digwydd yn y cloddfeydd.
Felly, dyna geisio diffinio’r peth fel y boglynodd (HIHI) i fy meddwl. Mae wedi aros gyda mi ers hynny. Dw i wedi bod yn lloffa trwy fy nodiadau a dwi’n gweithio ar stori dwi’n gobeithio ei chyhoeddi, am y tro cyntaf ers *blynyddoedd*. Yr hyn sydd wedi codi yn barod yw’r syniad ei fod yn genre â’r potensial i fod yn aml-ieithog. Hynny yw, rhywbeth i bobol dwy/aml-ieithog ei ddarllen, neu bod ffordd o chwarae gyda’r (diffyg) cyfathrebu sydd rhwng cymeriadau/darllennydd, mewn ffordd lawer yn fwy dychmygus nag y gallai Mark Steel ei wneud erioed. Diolch i hwnnw am ei anwybodaeth.
Eniwe, dyna ‘CoalPunk’: croeso iti ddwgyd y term i olygu beth bynnag yr hoffet ti, cofia roi gwybod os y byddi di’n gwneud hynny. ON: dwi hollol o ddifri am ‘Seven Vowels’. Oes rhywun isio dechre clwb swper efo fi? Eith y pres at elusen a mi gewn ni gynllwynio ar sut i ddisodli’r crachach, y sefydliad a’r derwyddon. Anfona drydar atai os oes gen ti ddiddordeb. xo
Helo ‘na. Fel ma Captain Awkward yn ddweud: dwi’n casau postiau sy’n dechre efo ‘sori bo fi ddim wedi postio am sbel’ ond sori bo fi ddim wedi postio am sbel, a helo.
Dwi wedi bod yn gwella ar ol triniaeth reit ddifrifol sy wedi fy ngadael yn slepjan llwyr, yn nofio ar leilo o dabledi lladd-poen o un apwyntiad ysbyty i’r llall. Ma mwy o bobol wedi rhoi eu dwylo yn fy ngheg yn y mis diwetha na liciwn i gyfadde, a pharhau fydd hynny am ryw chwe mis arall, tan fod esgyrn fy ngên wedi asio’n iawn, a’r nerfau brau wedi ail-dyfu yn fy ngwefus.
Yn y cyfamser, dwi wedi cael lot o amser i orffen prosiectau yn ara bach; i feddwl am beth liciwn i ei wneud pan fydda i wedi gwella; ac i sgrifennu rhywfaint yn y boreuau. Dw i ddim wedi diflasu eto, a mae’n bleser gwneud camau bychain ymlaen.
#camaubychainymlaen: Mae’r thema’n gweithio rywfaint yn well rwan – fe alli di adael nodyn os hoffet ti, a lincio at bostiau penodol. Yn sgil hynny, mae rhai bits o’r thema wedi ôl-ddad-gymreigio. Ymddiheuriadau. Mi ail-ail-gymreigiai nhw pan fydda i’n teimlo’n ddewr.