Dim ond wythnos ar ôl imi symud o fod yn Dudurwraig broffesiynol i’r byd dehongli digidol, dwi wedi bod allan yn chwilio am un o adeiladau canoloesol hyfryta Bro Morgannwg – Castell Bewpyr – i gael ffics bach o dreftadaeth analog.

2014-01-25-06.32.15-1-1024x576-1

Ar ôl sawl ymgais, dyma ni’n dod o hyd ohono ar yr hewl i Sant Hilari, ble buom ni yn y Bush yn byta pasteiod, achos be sy’n gweud ‘rhamant hir dymor’ gystal â phastai mewn tafarn efo enw doniol?

2014-01-25-06.12.10-1

Mi drodd y tywydd yn glou iawn. Disgynnodd cwmwl melynlwyd a hogle glaw ar ei ôl. Fe’m bradychwyd o fewn cwpwl o eiliadau gan ymbarél ‘Geraint Lloyd’, oedd raid ifi ei wisgo fel pabell wrth gerdded y llwybr tarw draw at y castell a’r gwynt yn cydio. Stopiodd fy nghariad ar y ffordd i archwilio dafad farw a fe gollais i fy het a gorfod rhedeg ar ei hôl. Eto, #rhamanthirdymor.

2014-01-25-06.32.06-1-1024x576

Roedd hi’n piso bwrw erbyn hyn a roedd teimlad o ias ofnadwy arnai, yn rhannol oherwydd y tywydd ond hefyd am fod y lle yn eithriadol o anghynnes. Dwi’n ymweld â llawer o lefydd fel hyn a dwi yn gyfforddus iawn fel arfer; yn rhyfeddu, yn dychmygu, ac yn ddiolchgar bo nhw dal i sefyll. Ond aeth popeth bach yn Hinterland. Ysbrydion Normaniaid, falle. Hanes pensaernïaeth yw fy nghefndir i felly ro’n i’n falch o gael mochel ymysg gwaith saer maen mor gain, yn dyddio o’r 1300au i’r 1600au, a darllen sgraffito cenedlaethau yn y maen Bath cerfiedig. Dwi ar ganol sgrifennu papur ar ddymchwel adeiladau ar gyfer rhwydwaith ExArc a roedd gweld yr holl haenau, marciau, y mwsogl a’r mwd yn sbardun pellach i’r dychymyg. Mae beth sy’n digwydd i adeilad wedi iddo ‘ddarfod’ yn rhan ‘run mor hanfodol o’i stori: y lleddf, y llon, y llaid a’r hollol, hollol sili.

IMG_20140125_154823-1024x1024

Santes Dwynwen hapus ichi gyd. Diolch i Geraint Lloyd am yr ymbarél shodi a diolch i @caws_llyffantam y llunie a’i chwmpeini. Xx