Skip to content

patrwm

Patrwm: Ffabrig Cymdeithasol

Ydych chi’n teimlo fel gosod neges hardd rywle yn eich ardal chi, i ddangos bod y gymraeg yn rhan o ‘ffabrig cymdeithasol’ ein prifddinas?

Wel hwde!

Dyma batrwm syml ichi (wedi’i wneud efo stitchpoint):

Patrwm Ffabrig Cymdeithasol

 

Heb wneud pwyth croes o’r blaen ond ffansi rhoi tro arni? Mae Sarah o Craftivist Collective yn gwerthu citiau bach, sy’n cynnwys yr holl ddeunyddiau a chyfarwyddiadau – a mae’r elw o’u gwerthu yn mynd at ariannu ymgyrchoedd sy’n targedu e.e. tlodi gwaith, llafur chwys a llygredd.

Prynwch:

Llun h. Craftivist Collective
Llun h. Craftivist Collective

 

 

#blogydydd 2: gwlân Drefach ar Ravelry

Nodyn bach clou i roi gwybod i’r rhai ohonoch chi sy’n defnyddio Ravelry, fod gwlân o Drefach nawr ar gael ar y gronfa ddata! Gallwch dagio eich gwaith ac ychwanegu’r edafedd aran a dwbl i’ch rhith-stash.

cardigan gwlan amgueddfa

Dwi wedi bod yn creu cardigan yn defnyddio eu dafedd dwbl lliw melynaidd – fe lwythais i’r car efo’r stwff wedi i mi gynnal gweithdy cyfryngau cymdeithasol yno fis diwetha. Yn anffodus (?) ma dipyn o waith datod gen i i’w wneud dros y penwythnos.

Am y tro cynta, dwi di ymddiried yn llwyr mewn patrwm dillad confensiynol, a mae rhywbeth mawr wedi mynd o’i le! Y freuddwyd oedd i greu cardigan gynnes ar gyfer nosweithiau Gwyl y Dyn Gwyrdd.

O deimlo’r gwlân, dwi’n credu y byddai carthen neu fat llawr yn gweddu’n well i’r gwead ta beth. Dwi wedi bod yn chwilio’n ofer am batrwm addas, felly falle bydd rhaid jyst rhoi tro arni a gweld lle mae’r edafedd yn f’arwain i.

Ta waeth – cofiwch dagio’ch prosiectau, os ydych chi wedi defnyddio dafedd hanesyddol Drefach ar gyfer gweu a crosio! Os ‘dych chi am gael golwg ar y gwlân, mae rhagor ar siop arlein yr amgueddfa.

Ymwadiad: dwi’n gweithio i’r amgueddfa ond mae’n elusen a ma gweu yn hwyl, so.

Patrymau Cymraeg?

O’n i’n chwilota trwy’r tag #arygweill neithiwr, pan ddois i ar draws hwn, gan @stfaganstextile: Pa mor gorjes yw’r sgarff ‘na?

Llun o sgarff gan @stfagans_textile

Mae’r patrymau a’r lliwiau mor hyfryd! Dw i wedi bod yn meddwl dechre gwneud cyfarwyddiade gweu, nyddu neu grosio yn gymraeg ers sbel – ond dwi’n cael diagramau gweu yn anodd iawn i’w dilyn ta beth – yn enwedig yr rhai llawdde – felly mae dyfeisio rhai sy’n hawdd eu dilyn wedi bod yn fwy o orchwyl nag o’n i wedi ei obeithio.

Fideos youtube fydda in eu defnyddio gan amla i ddysgu techneg, ac yn y misoedd diwetha, dwi wedi defnyddio patrymau mewn Iseldireg a Sbaeneg, yn ogystal â Saesneg. Mae’n rhan o ddatrys pos y prosiect, ond rhaid dweud, fe fyddwn i’n mwynhau gallu defnyddio patrymau Cymraeg hefyd.

Ydych chi erioed wedi dod ar draws un? Yn ddelfrydol, mae ‘na ryw gyfrol lyfli o’r 60au yn bodoli yn rhywle, wedi’i sgrifennu gan rywun o’r enw Dwysli, neu Farged, efo printiau leino neu ddiagramau dyfrliw drwyddi. Yn y cyfamser – oes gan rywun dermau neu batrymau Cymraeg fydden nhw’n hapus i’w rannu? Rhowch wybod yn y sylwadau!

Bomio Dafedd

Sgwâr Nain Droellog!
Sgwâr Nain Droellog!

Bydd lle chware Sain Ffagan yn cael ei ddafedd-fomio (?) gan y clwb gweu a chrosio dros y penwythnos, felly dwi wedi bod yn gwneud rhein heddiw. Falle nad ydyn nhw’n rhywbeth fyswn i’n ei ddefnyddio i addurno’r ty, ond ar gyfer lle chware plant? Jyst y job. Mae crosio yn foddhaol iawn am fod y gwaith yn ymddangos mor sydyn.

Os ydych chi’n berson diamynedd (a fidgety), mae na lwyth o fideos da ar youtube ar sut i fynd ati. Fyddwch chi’n dawnsio rownd y ty mewn balaclafa a moccasins (neu bicini 70aidd) cyn pen dim.

Dwi ddim yn aelod o’r clwb crosio a gweu, sy’n cwrdda yn fisol yn Sain Ffagan – ond o’n i isio gwneud cyfraniad bach lliwgar in absentia. Mi wnes i fwynhau’r patrwm troellog yma, sy’n newid braf ar y sgwar nain confensiynol:

Sgwâr (dy) Nain
Sgwâr (dy) Nain

Os dych chi, fel fi, yn symud o ‘sgwariau’ i ‘bethau nad sydd yn sgwâr’ yn eich siwrne grefft, bydd rhein yn eich cadw’n ddiddan. Mae’r patrwm (americanaidd) ar gyfer y sgwâr i’w ganfod yn fan hyn: ar Crochet Me.