O’n i’n chwilota trwy’r tag #arygweill neithiwr, pan ddois i ar draws hwn, gan @stfaganstextile: Pa mor gorjes yw’r sgarff ‘na?
Mae’r patrymau a’r lliwiau mor hyfryd! Dw i wedi bod yn meddwl dechre gwneud cyfarwyddiade gweu, nyddu neu grosio yn gymraeg ers sbel – ond dwi’n cael diagramau gweu yn anodd iawn i’w dilyn ta beth – yn enwedig yr rhai llawdde – felly mae dyfeisio rhai sy’n hawdd eu dilyn wedi bod yn fwy o orchwyl nag o’n i wedi ei obeithio.
Fideos youtube fydda in eu defnyddio gan amla i ddysgu techneg, ac yn y misoedd diwetha, dwi wedi defnyddio patrymau mewn Iseldireg a Sbaeneg, yn ogystal â Saesneg. Mae’n rhan o ddatrys pos y prosiect, ond rhaid dweud, fe fyddwn i’n mwynhau gallu defnyddio patrymau Cymraeg hefyd.
Ydych chi erioed wedi dod ar draws un? Yn ddelfrydol, mae ‘na ryw gyfrol lyfli o’r 60au yn bodoli yn rhywle, wedi’i sgrifennu gan rywun o’r enw Dwysli, neu Farged, efo printiau leino neu ddiagramau dyfrliw drwyddi. Yn y cyfamser – oes gan rywun dermau neu batrymau Cymraeg fydden nhw’n hapus i’w rannu? Rhowch wybod yn y sylwadau!