Shwmai ers sbel!
Yng nghanol trio twtio’r ty ar gyfer ei werthu, a gweu fy Hosan Gyntaf, ces amser i sgrifennu am gynrychiolaeth menywod ar gyfer BBC Cymru Fyw, ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Menywod 2015: Hanes yn cofio merched Cymru?
Ac achos bo fi di bod ar y trên am ORIAU, wnes i ofyn i bobl gyfrannu enwau menywod yr hoffen nhw eu gweld wedi’u coffau/dathlu yn y brifddinas. Mae pôl o gynigion pobl yn fan hyn – wnes i geisio cyflwyno rhywbeth o hanes a chymeriad y menywod o dan sylw ond dyw surverymonkey ddim yn gweithio’n arbennig o dda rhwng Gobowen a Chwmbrân!
Ta waeth, os y’ch chi moyn, fe allwch chi bleidleisio fan hyn: Merch i’r Brifddinas. Mae’n ddiddorol gweld pwy ma pawb wedi bod yn eu cynnig, a’r ymatebion falle fyddwn i ddim wedi ei ddisgwyl (ond sy’n hollol disgwyliedig, erbyn meddwl, pan ti’n trafod hanes menywod).
Pan dwi di bod yn rhoi sgyrsiau am hanes menywod yn y gorffennol, dwi di gofyn i bobl ofyn ynteu Symbol neu Berson oedden nhw’n edrych arni. Mae avatar Jemima Niclas yn llawer mwy cyfarwydd na stori ei bywyd, er enghraifft. Mae’r un peth yn wir mor bell yn ôl a chynrychiolaeth gynharaf menyw, Fenws Willlendorf, hefyd.
Mwy am hynny rywbryd eto, yn siwr. Dwi di bod yn lwcus iawn i gael ymateb more hael gan bobl heddiw – cofiwch adael sylw, neu gynnig syniad yn y pôl, neu rannu linc at eich gweithgareddau DRhM2015 chi.
A gobeithio y byddwch chi’n mwynhau gweddill y diwrnod!