Skip to content

craftivists caerdydd

#blogydydd 7: tâl teg i weithwyr masnach

Mae gan ran-ddeiliaid M+S gyfle’r wythnos hon i wneud gwahaniaeth i fywydau eu staff, ac i arwain y gad o ran talu ‘tâl byw’ yn y sector fanwerthu. Mae 11.5% o gartrefi Cymru o dan dlodi gwaith – oherwydd tâl isel neu gontractau 0 awr, felly dyma geisio gweithredu i argyhoeddi M+S i roi tâl teg i’w gweithwyr ar hyd a lled Cymru.

Yr wythnos ddiwetha, fe fues i’n cymryd rhan mewn gweithred fechan yng Nghanol Caerdydd:

 

menywod yn pwytho yn gyhoeddus
Pwytho o flaen M+S yng Nghaerdydd, fel rhan o Craftivists Caerdydd, ac o dan arweiniad Craftivist Collective. Llun gan Polly Braden

 

Fe fuom ni’n brodio hancesi efo negeseuon i’r cyfranddalwyr – yn oes deiseb-glicio (a does dim yn bod ar hynny), mae creu gwrthrych feddylgar yn creu dipyn o argraff, a mae’r Craftivist Collective wedi bod yn anfon llythyrau brodio at ASau a ffigyrau cyhoeddus eraill ers tro. Ro’n i’n falch iawn o fod yn rhan o’r weithred, ac yn falch o gwrdd â phobl newydd, yn ogystal â phobl sydd wedi dod i weu yn dawel efo fi yn y gorffennol – yn enwedig am i fi ddysgu beth oedd eu henwau tro yma!

Cefnogwch yr ymgyrch wrth drydar, rhannu linc ein partner, ShareAction; codi ymwybyddiaeth, rhannu’r lluniau o flickr Craftivist Collective. Mae citiau ymgyrch, bathodynnau a’r llyfrau ar eu gwefan yn cefnogi gwaith Sarah, sy’n cydlynu gweithredoedd ar hyd Cymru, Lloegr a’r Alban, ac yn dod â ni at ein gilydd o bryd i’w gilydd i greu a, gobeithio, gwneud gwahaniaeth.

Craftivists Caerdydd – Diwrnod o Godi Arian a Ioga

Mae wedi bod yn benwythnos o weu a chrosio, a gwych oedd gweld iogis o bob siâp yn dod draw i’n stondin i siarad a gwneud heddiw. Ges i gyfle i gwrdda amrywiaeth eang iawn o bobol, anarchwragedd, bwdyddion, ymgyrchwyr HAES*, ac yn arbennig rhai o gynrychiolwyr cymuned Ffilipinaidd Caerdydd.

Esboniodd Henry, sydd wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers saith mlynedd, fod y gymuned wedi ymrwymo i helpu pentrefi pysgota bychain dros nifer o flynyddoedd – nid am eu bod wedi eu dinistrio, ond am fod eu bywoliaeth a’u ffynhonell fwyd o dan fygythiad. Roedd yn beiriannwr a phensaer yn y Ffilipinau, a buom yn trafod pebyll, isadeiledd a hecsaiwrts am sbel. Sdwff gici. ‘Gyda digon o ddiferion, galli lenwi bwced’, meddai, am ein pwytho araf, a’r ceiniogau yn ein pot rhoddion.

Roedd hi’n gynnar, a bu pobol yn hael iawn – mae dros 7000£ wedi’i godi gan y stondiwyr a’r iogis, hyd yn hyn. Galli gyfrannu at yr apêl fan hyn: justgiving. (Ymddiheuriadau am y diffyg lluniau, dwi’n trio sortio ffôn fenthyg).

* Healthy at Any Size. Ardderchog!

Codi arian i’r Ffilipinau – ddydd Sul yng Nghaerdydd

Bydd Siân a fi, o dan faner Craftivists Caerdydd yn codi arian i apêl cefnogi goroeswyr y corwynt yn y Ffilipinau ar ddydd Sul y 1af, yn neuadd y ddinas, Caerdydd. Dere i ymuno â ni wrth i ni greu cadwyn o addurniadau Nadolig, fydd yn cael ei werthu mewn ocsiwn wedi’r digwyddiad.

Bydd yr elw i gyd yn mynd at apêl y DEC. Byddwn yn hapus i ddysgu iti sut i weu neu grosio, felly ma croeso i bawb, gan gynnwys llawchwithyns! Mae dros 3500£ wedi’i godi yn barod felly galwa heibio i gyfrannu a gwneud.

Mae’n rhan o ddiwrnod o weithgareddau codi arian amgen, fel ioga, a bydd bob math o stondinau yno hefyd. Swnio bach yn twee? Wel stwffia hynna yn dy sanau a tyrd draw i gyfrannu. Mae’n well nag iste mewn bath o ffa pob. Mwy o wybodaeth ar ddalen @yogafever.