Skip to content

caerdydd

Baneri a Ballu

Chwyldro

Ges i gic yn fy nhin gan set Gwenno yn y Dyn Gwyrdd, felly fues i’n pwytho hwn dros y penwythnos – oedd na lot o eiste yn y babell. Wnes i ddim meddwl lot am y cynllun cyn ei ddechre, felly mater o gyfri llawrydd ac ailadrodd mewn coch 666 oedd creu y faner fach.

Ar ôl cyrraedd adre, mi gariais i ‘mlaen efo’r pwyth croes – dwi heb afael mewn darn ohono ers sbel. Mae’n od fel ma pethe’n eistedd yn y drôr am gyhyd ac yn sydyn chwap! Ma nhw i gyd wedi’u gorffen. Mi wnes waith clou o sampler Llwybr Llaethog (sampler! hehe!) – mae’r un gwreiddiol yn eu meddiant nhw erbyn hyn, ond drafft anorffenedig oedd hwn, oedd un pwyth yn rhy fyr.

Baner Dull Di Drais

A fel mae’r pethe ma’n gweithio, ble mae’r dwylo’n mynd mae’r meddwl yn eu dilyn. Pan glywais i fod pennaeth cyngor Caerdydd wedi honni nad yw’r gymraeg yn rhan o ‘ffabrig cymdeithasol’ y ddinas? RHY HAWDD PHIL. Mi ddechreuais ddrafftio gwahanol syniadau yn defnyddio papur graff ac adobe shape.

Ffabrig Cymdeithasol

Mi wnai bostio patrwm cyn bo hir, ar hyn o bryd dwi’n cadw mysedd yn brysur yn creu ac yn cynllwynio…

Ffabrig Cymdeithasol

Pethe alli di neud pan ma dy gariad lawr stâr yn sgrifennu datganiad artist ar y cyd efo rhywun arall

Bwyta caws

Gwylio Community

Ceisio dod i ddeall be sy’n digwydd i S4C

Digalonni achos ma’r holl beth yn rhy depressing

Gwrando trwy ffenest agored ar y dynion yn ymolchi yn y mosg

Recordio coeden yn siglo yn y gwynt ar dy ffôn

Plygu blancedi

Rhoi nifer o ddiferion gwahanol yn dy lygaid

Yfed gwin pefriog

Edrych ar brosiect gweu ar ei hanner a meddwl am gychwyn arni

Ceisio meddwl i ble aeth y llyfr Tarot

Tynnu dy fra

#blogydydd 1: mynwenta

Capel yr Anghytunwyr, Kensall Rise
Yng nghapel yr Anghytunwyr, mynwent Kensal Rise yn Llundain

Dwi’n ymweld ag ysbyty’r brifysgol yng Nghaerdydd yn reit aml, ac am fy mod yn gorffen pennod arall o driniaeth yno, ac yn teimlo’n emo ar ddiwrnod mor braf, fe es allan i gerdded ym mynwent Cathays gerllaw.

Co ni off
Co ni off

Ro’n i’n chwilio am fedd arbennig, enwog, a mi o’n i’n hanner cofio cyfarwyddiadau gesi gan ymgymerwr y tro diwetha ifi grwydro i mewn. Roeddwn i i fod i chwilio am lwybr rhwng dwy groes geltaidd anferth, a cherdded ar hyd ymyl yr ardal bywyd gwyllt. Roedd y garreg rwle fanno. Ma na lot o gerrig.

 

Ma raid mod i wedi cerdded rownd y fynwent gyfa cyn dod o hyd iddi, ond doedd dim llawer o ots gen i: roedd hi’n braf roedd gweld amrywiaeth yr enwau, llinachau, lluniau, addurniadau, cerfiadau.

Processed with VSCOcam with kk2 preset
‘Family Nurse’

Y llon a’r lleddf, fel fyddech chi’n ei ddisgwyl. Mwyfwy o enwau ‘dwi’n eu hadnabod, o ddod i nabod Caerdydd yn well. Dau bentwr tal o bridd cochlyd ochr yn ochr a gorchudd bedd pren.

Mae bedd Louisa Maude yn daclus iawn. Ers talu i’w godi ym 1896, mae pobl Caerdydd wedi gofalu am y garreg, yn ail-beintio’r llythrennau ac yn cadw’r gwair o’i amgylch yn ddestlus.

IMG_20150630_104802

Mae’n stori fer mewn maen. Mae sawl fersiwn ehangach, ond hon yw fy hoff un, sy’n grynodeb o lyfr am hedfan ac awyrenneg gynnar yn Sir Forgannwg.

Os oes diddordeb da chi mewn gweld y bedd, neu i ddysgu rhagor am hanes Caerdydd, ma na nifer o deithiau a sgyrsiau am hanes y fynwent gan Gyfeillion Mynwent Cathays.

 

Ydych chi’n licio mynwenta? Lle fyddwch chi’n licio crwydro?