Skip to content

blanced

#blogydydd 12: o glasto i galais

Pan dwi’n cael gafael ar Rhiannon, mae hi newydd fod yn ymolchi mewn cawodydd cyhoeddus wedi’u hamgylchynu gan weiars pigog. Mae’n debyg mai felna mae bywyd yng Nghalais: cyfleusterau ar hyd ochrau’r hewl i yrrwyr loris a faniau sy’n tramwyo’r sianel, y rhesi o ddynion sy’n chwilio am ffordd o deithio gyda nhw, a’r ffensys sy’n eu rhannu.

‘Dyw bodolaeth gwersylloedd mudwyr ddim yn gyfrinach, ond ar ôl iddyn nhw gael eu dymchwel gan heddlu fis dwetha, mae sefyllfa pobl dlota Ewrop wedi gwaethygu yn enbyd. Mae bron pawb sy’n cyrraedd Calais wedi’u trafficio.

Mae Calais Migrant Solidarity yn cynnal protest heddiw i godi ymwybyddiaeth, a daeth ymdrech undramodydd o Gaerdydd at fy sylw, wrth iddi ddod o hyd i ffordd i roi lloches i’r mudwyr ar y ffîn.

Mae Rhiannon White wedi bod yn casglu pebyll a blancedi wedi i’r torfeydd adael Glastonbury, a’u cario i Galais i’w rhannu gyda dynion heb unrhyw eiddo o gwbl. Mae’n syfrdanol bod pabell gaiff thaflu ar ôl gweithgaredd hamdden, fel Glastonbury, yn dod yn gartref gwerthfawr wrth iddi groesi’r ffîn. Mae’n werth cofio bod y gagendor rhyngddom ni yn llawer mwy grymus na llinell ar fap neu ddarn o ddwr.

Fe ges i gyfle i siarad efo Rhiannon bore ma:

Llun: Rhiannon White
Llun: Rhiannon White

S: Fel wyt ti’n ei dallt hi, pam nad oes gan y bobl yma flancedi?

R: Heddiw yng Nghalais mae tua mil o fudwyr ar y ffîn, a ma mwy o bobl yn cyrraedd bob dydd: o Sudan, o Eritrea ac o Bacistan. Mae ‘na ddau brif wersyll yma a tua pythefnos yn ôl fe wnaeth yr heddlu ddatgan eu bod yn poeni am lefelau haint scabies ymysg mudwyr. Mi ddaethon nhw i’r gwersylloedd a rhacso’r holl bebyll a blancedi, a rhoi’r mudwyr ar fysiau i Baris, dan osgordd heddlu oedd yn cynnwys hofrennydd. Mi anfonwyd y dynion yma ymlaen i rannau eraill o Ffrainc a’r Eidal. Felly mae tipyn ohonyn nhw wedi cyrraedd ‘nôl, er mwyn trio croesi, yn syth o orsafoedd heddlu yn eiddo ar ddim byd, dim ond y dillad oedden nhw’n ei wisgo pan ga’th y gwersylloedd eu clirio.

Felly ‘dyn ni wedi dod i Galais efo 150 o bebyll wnaethon ni ffindio yn Glastonbury ar ôl yr wyl – pebyll oedd pobol wedi’u lluchio neu’u gadael drachefn. A roedd y mudwyr yn cwffio amdanyn nhw. Does na fyth ddigon, achos bo cymaint o ddynion yn cyrraedd bob dydd a chyn lleied yn llwyddo i groesi.

S: Mae ymgyrchu ar lein, yn ogystal â beirniadaeth ohono, wedi cynyddu dros y ddwy flynedd ddwetha. Beth mae’n gymryd i wneud rhwbeth yn y cigfyd, o’i gymharu â ail-drydar ymgyrchoedd neu arwyddo deiseb ar-lein?

R: Y tro cyntaf ti’n gweld anghyfiawnder. Pan ti’n ei weld e, realiti’r peth, ma raid iti wrthweithredu a cheisio ei ddisodli. A’r mwya o hynna ti’n ei wneud, y mwyaf ti ishe ei wneud. Achos mae bod yn y fan a’r lle – oedd gynno ni ddim syniad fod pethe mor wallgo yma. Mi weles grwp o ddynion o Sudan yn aros wrth y ffîn a dynion Ffrengig yn gweithio wrth eu hochor, yn edrych reit trwyddan nhw, heb eu cydnabod fel petaen nhw mewn dau fyd gwahanol. Felly gall deiseb arlein roi’r rhif i ti, bod 1000 o bobl heb loches. Ond ma realiti’r sefyllfa, unigolion yn cwffio dros flanced – pan ti’n gweld hynna mae raid iti wneud rhywbeth.

S: Pam bo mudwyr isio croesi i’r DU yn benodol?

R: Dwi wedi bod yn gofyn hyn a ma’r ymateb di bod yn amrywiol. Fe gwrddais i â boi o Sudan ddoe a’i ymateb o oedd bod triniaeth y DU o fudwyr yn fwy teg. Ond dyw hynny ddim yn berthnasol i bawb – er enghraifft, mae mudwyr sy’n dianc y rhyfel yn Syria yn fwy tebygol o gyrchu lloches yn Sweden, oherwydd bod cytundeb gan y wlad i ganiatáu hynny. Felly mae’n amrywio.

T [cyd-deithiwr yn y fan]: Mae’n werth cofio bod llawer o’r gwledydd ‘ma’n gyn-drefedigaethau, er enghraifft yn Sudan, maen nhw’n eich dysgu yn yr ysgol fod digon i bawb yn y DU.

S: O be dwi’n ddeall mae’r rhan yna o’r siwrne, o gyfandir Ewrop i’r DU, yn un bwysig iawn i lawer o fudwyr. O’n i’n ceisio dirnad faint o’r siwrne yna sy’n symbolig.

R: Mae o yn symbolig. Mae’r Ffrainc a’r Almaen yn trin mudwyr mewn ffordd weddol debyg, ond yn y DU maen nhw’n cael eu trin chydig yn well. Pan maen nhw’n cyrraedd y DU, maen nhw wedi ennill.

Llun: Rhiannon White
Llun: Rhiannon White