“Fe ymadawodd â’i ofalaeth [gyda’r Annibynnwyr] dan rywfaint o gwmwl…”

“Cafodd waith wedyn fel labrwr yn Chwarel y Becyn, Penmon, a dyma pryd y dechreuodd “y cacwn rhigymu” ei bigo…”

“Treuliodd dair blynedd gyda’r Royal Field Artillery yn ystod Rhyfel Mawr… ac yma eto daeth natur ‘chwit-chwat’ Percy i’r amlwg.”

“Yn dilyn ei gyfnod yn y carchar bu’n byw ym Mhenbedw, ac yna yn Llundain, lle roedd yn cadw siop.”

“Bu farw dipyn o feirdd Sir Fôn pan farwodd Percy Hughes, achos mi fyddai’n ysgrifennu ar ran pobl eraill, a rheiny’n cael gwobrau am eu gwaith.”

Ma Yncl Percy yn swnio fel dipyn o foi. Dechre meddwl amdano wnes i am fod fy nghariad wedi mynd i weld War Horse heno. Sgrifennodd Percy farwnad ethriadol am geffyl gwaith yn ystod y rhyfel byd cynta.

Ma beirniadaeth ei gerddi yn nodi ei sentimentalrwydd, ond mae ‘na rywbeth llai nawddoglyd am hon. Dwi’n hanner cofio stori fod fy hen-Nain wedi creu twll ym matras gwellt y gwely wenscot, iddo gael cuddio ynddo fo pan oedd y fyddin yn galw heibio i recriwtio. Felly dwi’n licio meddwl bo na binshed o halen ymysg y sacarin.

Ta waeth, dyma hi:

Cyrnol
Wel, ‘Cyrnol’, ai ti sydd yma,
Yn nhân a mwg y gad?
Pwy’th listiodd di o ganol Môn
I ymladd dros dy wlad?
‘Rwy’n deall wrth dy glustiau
Nad yma mae dy fyd,
Dy nefoedd di yw cario gwair
A thynnu llwyth o yd.
Pwy bynnag arall hwyliodd
O’i wirfodd dros y lli,
Wnest ti mo’ hynny, ‘Cyrnol’,
Hen gonscript iawn wyt ti;
Gwyn fyd ‘rhen law na fuasai
Dy dafod mor rydd a’th draed,
I ddweud bod dy gydwybod
Yn erbyn tywallt gwaed.
A dyma thi’n glwyfedig,
O dan y lleuad wen,
Heb gysgod tô y stabal
Na gwellt o dan dy ben;
‘Rwyt yn rhy sâl i gerdded,
Mae’th waed yn lliwio’r fan;
‘Rwyt yn rhy drwm i’th gario,
A minnau yn rhy wan.
Ffarwel, hen gyfaill rhadlon,
Mae’th einoes yn byrhau;
Os byth caf weled Cymru
gwnaf yno dy goffau:
Fe drof i mewn i’r ‘stabal
Sy’n fferam wen y ddôl,
A thorraf enw “Cyrnol”
I bolyn derw’r stôl.

Rhagor am Percy: Crynodeb o waith ymchwil Dafydd Islwyn amdano ac o gyfnodolion llgc