Skip to content

asparaguspea

#blogydydd 6: rhandir digidol

Mi gesi drydar ar ôl postiad neithiwr gan asparaguspea, yn f’atgoffa o alaw, fel rhyw fath o shazam gwerinol. Dyma hi: ‘Dacw ‘Nghariad’, wedi’i chanu gan Merêd. Mae Ms Pea yn un o fy hoff flogwyr, a mae hi’n cadw cofnod o’r tymhorau ac o’i gwaith yn garddio hanesyddol draw fan hyn, ar Up the Garden Path. Mae na ffotograffau hyfryd, gwybodaeth am blanhigion a garddio Cymreig, a hiwmor gwely tail – dw i wedi dysgu llawer ganddi dros y blynyddoedd, wrth i fi geisio datguddio hanes bob dydd bwyd a diod Cymry’r gorffennol.

1400431645019-1024x682

Ers gadael Sain Ffagan, un o’r pethe dw i wedi gweld ei isie fe fwya oedd y dyddie lle roedd rhywfaint o gynnyrch o’r gerddi – hynny nad oedd wedi cael ei fwyta gan ymwelwyr a wiwerod – ar gael i’w brynnu gan staff. Roedd Diwrnod y Pys yn uchafbwynt fy mlwyddyn a ro’n i’n hapus iawn fy myd yn gweithio wrth fy nesg ac yn sglaffio bag cyfan o’r pethe, oedd yn blasu mor, wel, mor WYRDD. Erbyn diwedd yr haf, bydd y cynnyrch gorau i gyd yn mynd at arddangosfa ddiolchgarwch fer yng Nghapel Penrhiw, ac yna maent yn mynd, os dwi’n cofio’n iawn, at gegin sy’n coginio i’r digartref. Mae hi wastad yn arddangosfa gwerth ei gweld. Mi gewch gyfle i wneud ‘ny adeg yr Wyl Fwyd ym mis Medi eleni – y flwyddyn gyntaf na fydda i yno yn coginio ar y tân ac yn arbrofi gyda hen ryseitiau.

Dyma fi yn fy mrethyn llynedd. Ydi hi’n bosib i grinjo a bod yn falch ar yr un pryd? (llun: Amgueddfa Cymru)
Dyma fi yn fy mrethyn llynedd. Ydi hi’n bosib i grinjo a bod yn falch ar yr un pryd? (llun: Amgueddfa Cymru)

Dw i wastad yn meddwl beth allwn i fod yn ei wneud gyda’r wybodaeth a ddysgais i wrth geisio adfywio hen ryseitiau, wrth weithio gydag arbenigwragedd fel Ms Pea uchod, Sally Pointer, ac yn teithio Ewrop yn rhannu cyfrinachau coginio tân agored efo Llychlynwyr, Rhufeiniaid a phobl Oes y Cerrig(ish). Llyfr ryseitiau? Bwyty pop-up? Dwi’n edmygu beth ma Baragouiner yn ei wneud, ond mae’n lot o ymroddiad – dw i ddim yn siwr os dw i isio i goginio hanesyddol deimlo fel ‘day job’ unwaith eto!

Rhan o wledd Duduraidd y Gaeaf yn ty ni y llynedd
Rhan o wledd Duduraidd y Gaeaf yn ty ni y llynedd

Ta beth, yr wythnos yma dw i wedi cyfnewid bwydydd efo fy nghymdogion yn y mosg ar achlysur dechre Ramadan, ac wedi coginio pryd tri chwrs ar gyfer fy ffrindiau. Ar ôl gorfod bwyta deiet hylif am dri mis, dw i wrth fy modd yn arbrofi eto. Mae rhannu bwyd yn ffordd mor sylfaenol o fagu perthynas, ac o ddiolch i rywun, y byswn wrth fy modd yn gwneud rhagor ohono (cyn belled â bod y brethyn yn aros yn y gist).

Delfryda yn y niwl

Tra bo fi’n aros am alwad gan y meddyg man a man ifi aros fan hyn am eiliad. Ar ôl tridie mewn bandej artisanaidd* dwi wedi penderfynu dechre ar waith paratoi at 2014, o leia yr hyn y galla i ei gyflawni ar fy nhîn. Mae gen i gannoedd o faneri i’w gwneud, yn ogystal â threfnu lle i’w harddangos yn ystod Gwyl Fai’r Menywod yn Llundain.

Mae’r cardiau côf i fyny’r grisiau ond ma Siân wedi blogio rywfaint amdanynt fanhyn: sianlilemakes. Byddi’n gweld tipyn mwy arnynt yn ystod y misoedd nesa – yn y cyfamser ma gen i gasgliad bach yn tyfu o faneri diddorol ar pinterest.

Cyn i 2014 ddechre go iawn, mae gen i un swydd bwysig i’w gwneud, sef clirio lle yn Sain Ffagan. Dwi’n gadael, ar ôl saith mlynedd o ddysgu, hyfforddi, gwisgo bonets ac ymweliadau achlysurol â’r lladd-dy lleol. Mae’n drist meddwl na fydda i’n cael y fraint o weithio efo’r tymhorau, na manteisio ar gynhaea blasus y gerddi (diolch i asparaguspea), ond yn rhyddhad na fydda i byth yn gorfod gwisgo corset bren fyth eto.

*artisanaidd, mob doctorish, digon da