Mi gesi drydar ar ôl postiad neithiwr gan asparaguspea, yn f’atgoffa o alaw, fel rhyw fath o shazam gwerinol. Dyma hi: ‘Dacw ‘Nghariad’, wedi’i chanu gan Merêd. Mae Ms Pea yn un o fy hoff flogwyr, a mae hi’n cadw cofnod o’r tymhorau ac o’i gwaith yn garddio hanesyddol draw fan hyn, ar Up the Garden Path. Mae na ffotograffau hyfryd, gwybodaeth am blanhigion a garddio Cymreig, a hiwmor gwely tail – dw i wedi dysgu llawer ganddi dros y blynyddoedd, wrth i fi geisio datguddio hanes bob dydd bwyd a diod Cymry’r gorffennol.
Ers gadael Sain Ffagan, un o’r pethe dw i wedi gweld ei isie fe fwya oedd y dyddie lle roedd rhywfaint o gynnyrch o’r gerddi – hynny nad oedd wedi cael ei fwyta gan ymwelwyr a wiwerod – ar gael i’w brynnu gan staff. Roedd Diwrnod y Pys yn uchafbwynt fy mlwyddyn a ro’n i’n hapus iawn fy myd yn gweithio wrth fy nesg ac yn sglaffio bag cyfan o’r pethe, oedd yn blasu mor, wel, mor WYRDD. Erbyn diwedd yr haf, bydd y cynnyrch gorau i gyd yn mynd at arddangosfa ddiolchgarwch fer yng Nghapel Penrhiw, ac yna maent yn mynd, os dwi’n cofio’n iawn, at gegin sy’n coginio i’r digartref. Mae hi wastad yn arddangosfa gwerth ei gweld. Mi gewch gyfle i wneud ‘ny adeg yr Wyl Fwyd ym mis Medi eleni – y flwyddyn gyntaf na fydda i yno yn coginio ar y tân ac yn arbrofi gyda hen ryseitiau.

Dw i wastad yn meddwl beth allwn i fod yn ei wneud gyda’r wybodaeth a ddysgais i wrth geisio adfywio hen ryseitiau, wrth weithio gydag arbenigwragedd fel Ms Pea uchod, Sally Pointer, ac yn teithio Ewrop yn rhannu cyfrinachau coginio tân agored efo Llychlynwyr, Rhufeiniaid a phobl Oes y Cerrig(ish). Llyfr ryseitiau? Bwyty pop-up? Dwi’n edmygu beth ma Baragouiner yn ei wneud, ond mae’n lot o ymroddiad – dw i ddim yn siwr os dw i isio i goginio hanesyddol deimlo fel ‘day job’ unwaith eto!

Ta beth, yr wythnos yma dw i wedi cyfnewid bwydydd efo fy nghymdogion yn y mosg ar achlysur dechre Ramadan, ac wedi coginio pryd tri chwrs ar gyfer fy ffrindiau. Ar ôl gorfod bwyta deiet hylif am dri mis, dw i wrth fy modd yn arbrofi eto. Mae rhannu bwyd yn ffordd mor sylfaenol o fagu perthynas, ac o ddiolch i rywun, y byswn wrth fy modd yn gwneud rhagor ohono (cyn belled â bod y brethyn yn aros yn y gist).