Skip to content

gofod

Tocyn Diwrnod #2: Globync – neu ‘Coalpunk’ a sefydlu’r Seven Vowels

Jyst isio clymu cwpwl o bethe at ei gilydd cyn iddyn nhw ddatod go iawn. Mae pethe’n dechre ar noson y pumed, pan ma Mark Steel yn trydar yr n-fed jôc am ddiffyg llafariaid yn y gymraeg. Hoho! Dyn enwog asgell chwith yn lluchio lleiafrif i’r llewod i gael laff ddiog? Sgêrsli bylîf. Fel lesbian dew gymreig, dwi’n ysu i glywed mwy o rheiny! Ges i hwyl yn trydar yn ôl ac ymlaen efo pobol, y tro cyntaf i mi wneud yn iawn ers dod oddi ar y tabledi lladd poen oedd yn gwneud unrhyw gyfraniad at y cyfryngau torfol yn risg enfawr, fflyffi. Y bore wedyn, penderfynais fentro o’r ty. Dw i wedi bod ynddo ers cyhyd, fod hyd yn oed y sgyrtins yn lân, a’r gwahoddiad i gwrdd â nghariad ym maes parcio Castell Coch i gasglu gazebo yn un cyffrous iawn.

Bore da, Gastell

Fel rheol, yr amser gore i weld unrhyw fath o heneb (un efo ffenestri yn enwedig) ydi cyn 10 – mae’r golau ar ei orau, a does dim cymaint o bobl o gwmpas. Mae’n llawer haws ymgolli mewn stori neu ffantasi wrth grwydro’r llefydd ‘ma pan fyddan nhw’n llonydd. Nai fyth anghofio dringo tyrrau Castell Dinefwr ben bore, ryw ddeng mlynedd yn ôl, heb neb o gwmpas o gwbl. Roedd yn foment o oleuni a rhyddid llwyr yng nghanol blwyddyn dywyll iawn i mi. Felly, mi gydiais y gwahoddiad i ymweld â Chastell Coch, ac wrth i mi gerdded ar hyd y bont trwy’r porth, ro’n i’n dal i feddwl am drydar y noson cynt.

Screenshot_2014-06-07-16-03-02_2

Mi anfonais hwn. Y syniad oedd gen i wrth drydar oedd yr un math o beth a sydd wedi digwydd i Gastell Coch – rhyw ail-wampiad lled-ganoloesol, rhyw atgyfnerthu gwirion a mympwyol. Rhywbeth sy ddim yn hollol ffwythiannol. Ffoli gyfrin fyddai’n sticio dau fys at bawb sydd wedi, ac yn parhau i ddibynnu ar y ffaith bod y gymraeg yn edrych a swnion’n /ffyni/ – a’n cymryd bod hynny’n ddigon o ddeunydd ar gyfer jôc (ar ôl jôc ar ôl…). Fel gwetws Tyrion Lannister, fy hoff gymeriad lled-ganoloesol cyfredol:

“Let me give you some advice, bastard: Never forget what you are. The rest of the world will not. Wear it like armor, and it can never be used to hurt you.”

Pam eistedd adre yn trydar yn ymatebol pan alla i ddefnyddio’r achlysur i f’ysbrydoli? Wrth i fi symud o gwmpas yr adeilad, roedd fy ffôn yn crynnu efo ymatebion ac yn torri ar dawelwch yr ystafelloedd crand.

Oes rhywun arall isie gwely efo peli crisial arni? Jest fi?
Oes rhywun arall isie gwely efo peli crisial arni? Jest fi?

Roedd yn galonogol gweld pobol yn cyffroi, a daeth amryw o bethe at ei gilydd i mi, wrth ifi droelli i fyny ac i lawr y twr.

Dw i wedi bod yn chwarae efo’r cysyniad o ‘Coal Punk’ ers dros flwyddyn nawr, ond gan mai sgrifennu at fy mhleser fy hun wna i gan amla erbyn hyn, do’ni ddim yn siwr os oedd o’n cyfri fel genre am bo fi heb gyhoeddi dim. Felly dyma ryddhau’r peth, fel bo pobol eraill yn gallu cael tro arni.

Eisteddle yn y Neuadd Wledda
Eisteddle yn y Neuadd Wledda

Egin y syniad oedd edrych ar elfennau colonaidd ac ôl-golonaidd (god ma hwnna’n air mor fudur yn gymraeg! oes na un gwell?) steampunk – dwi’n meddwl am Nemo yn y ffilm League of Extraordinary Gentlemen, a’r tueddiad i anwybyddu gorthrwm ac artaith yr ymerodraeth yn enw adloniant a top hats efo clociau arnyn nhw. Yn yr un modd a ma the-great-british-cup-cake-io diwylliant y 1930-1950au wedi lluchio llwyth o siwgr eisin dros gyfnod o ryfel, hiliaeth, homoffobia, casineb at ferched ac ati, mae Steampunk yn dueddol o fod yn genre ‘gwyn’ iawn, rhywbeth sy’n dathlu’r mecanyddol ac yn creu ffetish o waith llaw ‘cyn-ddiwydiannol’. Y syniad ein bod ni rywsut yn well, yn lanach, yn glyfrach na phobol y gorffennol (a phobol sy’n byw mewn ffyrdd ‘cyntefig’) – ein bod *Ni-efo-N-fawr-chwinc-chwinc* wastad am fod yma, fod y graff yn saethu i fyny’n stedi wrth i ‘ni’ anelu am y sêr. Mae’n gysyniad Fictoriaidd sy’n fy nghyfareddu, ac un o’r rhesymau dwi’n licio mynwenta shwt gymaint: ma beddau’r bobol ma’n anhygoel: Narsisistiaeth Hanesyddol ar ei anterth.

A dyma’r syniad yn codi drwy fy esgyrn at fy nghlustiau: os oes stêm, ma na lo, reit? Ma sylwebwyr gwe ar erthyglau boring am Gymru ar y guardian yn ffond iawn o’n hatgoffa fod yr ymerodraeth wedi’i yrru gan lo cymreig, a’i reibiwyd o’n mamwlad. Wel, tra bod yr ymerodraeth yn ymchwyddo dros gartrefi a diwylliannau ar draws y byd, be *oedd* yn digwydd yng Nghymru?

A lle well i ddechre meddwl am orthrwm glo, nag yn un o gestyll crand y Dyn Drwg ei hun, Marcwys Biwt?
A lle well i ddechre meddwl am orthrwm glo, nag yn un o gestyll crand y Dyn Drwg ei hun, Marcwys Biwt?
Lle gei di ddarlun gwell o gartre direidyn sgwbi-dw-aidd na fan hyn?
Lle gei di ddarlun gwell o gartre direidyn sgwbi-dw-aidd na fan hyn?

Lle gei di ddarlun gwell o gartre direidyn sgwbi-dw-aidd na fan hyn? Beth yw Coalpunk i fi: straeon ar y ffîn, rhwng y mecanyddu, allforio, rhwng y cogs. Nid stori’r mwynau, na’r teuluoedd cyfoethog, ond dychmygu’r ffrontier yn Ne Cymru. Yr economi lwyd, wrth i bobl o bob cwr symud i weithio yn y mwyngloddiau, a’u anghenion gwahanol. Yr ieithoedd gwahanol, y swn, y bywyd bob dydd. Y plant, y dyfeisgarwch a’r llwch. Cyffro a pherygl boom towns. Yr rhai sy’n eu rheoli, eu gorthrymu, a’r rhai sy’n goroesi. Cyfnewid, bargeinio, osgoi cael dy sathru, a thrasiedi gorfforol y math o lafur fyddai’n digwydd yn y cloddfeydd.

“‘Look on my works, ye Mighty, and despair!’ /Nothing beside remains. Round the decay /Of that colossal wreck, boundless and bare /The lone and level sands stretch far away.” Ai dyna oedd y Marcwys yn ei weld trwy’r ffenestr yma, sgwn i?
“‘Look on my works, ye Mighty, and despair!’ /Nothing beside remains. Round the decay /Of that colossal wreck, boundless and bare /The lone and level sands stretch far away.” Ai dyna oedd y Marcwys yn ei weld trwy’r ffenestr yma, sgwn i?

Felly, dyna geisio diffinio’r peth fel y boglynodd (HIHI) i fy meddwl. Mae wedi aros gyda mi ers hynny. Dw i wedi bod yn lloffa trwy fy nodiadau a dwi’n gweithio ar stori dwi’n gobeithio ei chyhoeddi, am y tro cyntaf ers *blynyddoedd*. Yr hyn sydd wedi codi yn barod yw’r syniad ei fod yn genre â’r potensial i fod yn aml-ieithog. Hynny yw, rhywbeth i bobol dwy/aml-ieithog ei ddarllen, neu bod ffordd o chwarae gyda’r (diffyg) cyfathrebu sydd rhwng cymeriadau/darllennydd, mewn ffordd lawer yn fwy dychmygus nag y gallai Mark Steel ei wneud erioed. Diolch i hwnnw am ei anwybodaeth.

Eniwe, dyna ‘CoalPunk’: croeso iti ddwgyd y term i olygu beth bynnag yr hoffet ti, cofia roi gwybod os y byddi di’n gwneud hynny. ON: dwi hollol o ddifri am ‘Seven Vowels’. Oes rhywun isio dechre clwb swper efo fi? Eith y pres at elusen a mi gewn ni gynllwynio ar sut i ddisodli’r crachach, y sefydliad a’r derwyddon. Anfona drydar atai os oes gen ti ddiddordeb. xo

#tocyndiwrnod 1 – castell bewpyr

Dim ond wythnos ar ôl imi symud o fod yn Dudurwraig broffesiynol i’r byd dehongli digidol, dwi wedi bod allan yn chwilio am un o adeiladau canoloesol hyfryta Bro Morgannwg – Castell Bewpyr – i gael ffics bach o dreftadaeth analog.

2014-01-25-06.32.15-1-1024x576-1

Ar ôl sawl ymgais, dyma ni’n dod o hyd ohono ar yr hewl i Sant Hilari, ble buom ni yn y Bush yn byta pasteiod, achos be sy’n gweud ‘rhamant hir dymor’ gystal â phastai mewn tafarn efo enw doniol?

2014-01-25-06.12.10-1

Mi drodd y tywydd yn glou iawn. Disgynnodd cwmwl melynlwyd a hogle glaw ar ei ôl. Fe’m bradychwyd o fewn cwpwl o eiliadau gan ymbarél ‘Geraint Lloyd’, oedd raid ifi ei wisgo fel pabell wrth gerdded y llwybr tarw draw at y castell a’r gwynt yn cydio. Stopiodd fy nghariad ar y ffordd i archwilio dafad farw a fe gollais i fy het a gorfod rhedeg ar ei hôl. Eto, #rhamanthirdymor.

2014-01-25-06.32.06-1-1024x576

Roedd hi’n piso bwrw erbyn hyn a roedd teimlad o ias ofnadwy arnai, yn rhannol oherwydd y tywydd ond hefyd am fod y lle yn eithriadol o anghynnes. Dwi’n ymweld â llawer o lefydd fel hyn a dwi yn gyfforddus iawn fel arfer; yn rhyfeddu, yn dychmygu, ac yn ddiolchgar bo nhw dal i sefyll. Ond aeth popeth bach yn Hinterland. Ysbrydion Normaniaid, falle. Hanes pensaernïaeth yw fy nghefndir i felly ro’n i’n falch o gael mochel ymysg gwaith saer maen mor gain, yn dyddio o’r 1300au i’r 1600au, a darllen sgraffito cenedlaethau yn y maen Bath cerfiedig. Dwi ar ganol sgrifennu papur ar ddymchwel adeiladau ar gyfer rhwydwaith ExArc a roedd gweld yr holl haenau, marciau, y mwsogl a’r mwd yn sbardun pellach i’r dychymyg. Mae beth sy’n digwydd i adeilad wedi iddo ‘ddarfod’ yn rhan ‘run mor hanfodol o’i stori: y lleddf, y llon, y llaid a’r hollol, hollol sili.

IMG_20140125_154823-1024x1024

Santes Dwynwen hapus ichi gyd. Diolch i Geraint Lloyd am yr ymbarél shodi a diolch i @caws_llyffantam y llunie a’i chwmpeini. Xx

Er Cof am Helen

Llyn y Priordy, Ynys Bur
Llyn y Priordy, Ynys Bur

Ar rai diwrnodau adeg yr hydref mae tywydd clîr, oer wedi’i glymu at deimlad o gerdded i angladd. Allai ddim esbonio’r peth ond mae fel ofergoel croesi bedd.

Tynnais i’r llun yma wrth iddi wawrio ar Ynys Bur, ddiwrnod cyn yr eira mawr, rhyw Dachwedd reit ddiweddar. Roeddwn wedi bod yn crwydro’r ynys efo’r Tad Gildas y diwrnod cynt, a soniodd mai llyn teyrnged oedd o, bod archaeolegwyr wedi darganfod rhoddion haearn yn ei waelod. Taflais dorch o helyg i fewn i’r dwr, heb wybod yn iawn pam ond yn gwybod bo raid i fi. Dwi’n meddwl fod y weithred yn gliriach i mi heddiw.