Skip to content

cymraeg

Codi arian i’r Ffilipinau – ddydd Sul yng Nghaerdydd

Bydd Siân a fi, o dan faner Craftivists Caerdydd yn codi arian i apêl cefnogi goroeswyr y corwynt yn y Ffilipinau ar ddydd Sul y 1af, yn neuadd y ddinas, Caerdydd. Dere i ymuno â ni wrth i ni greu cadwyn o addurniadau Nadolig, fydd yn cael ei werthu mewn ocsiwn wedi’r digwyddiad.

Bydd yr elw i gyd yn mynd at apêl y DEC. Byddwn yn hapus i ddysgu iti sut i weu neu grosio, felly ma croeso i bawb, gan gynnwys llawchwithyns! Mae dros 3500£ wedi’i godi yn barod felly galwa heibio i gyfrannu a gwneud.

Mae’n rhan o ddiwrnod o weithgareddau codi arian amgen, fel ioga, a bydd bob math o stondinau yno hefyd. Swnio bach yn twee? Wel stwffia hynna yn dy sanau a tyrd draw i gyfrannu. Mae’n well nag iste mewn bath o ffa pob. Mwy o wybodaeth ar ddalen @yogafever.

Er Cof am Helen

Llyn y Priordy, Ynys Bur
Llyn y Priordy, Ynys Bur

Ar rai diwrnodau adeg yr hydref mae tywydd clîr, oer wedi’i glymu at deimlad o gerdded i angladd. Allai ddim esbonio’r peth ond mae fel ofergoel croesi bedd.

Tynnais i’r llun yma wrth iddi wawrio ar Ynys Bur, ddiwrnod cyn yr eira mawr, rhyw Dachwedd reit ddiweddar. Roeddwn wedi bod yn crwydro’r ynys efo’r Tad Gildas y diwrnod cynt, a soniodd mai llyn teyrnged oedd o, bod archaeolegwyr wedi darganfod rhoddion haearn yn ei waelod. Taflais dorch o helyg i fewn i’r dwr, heb wybod yn iawn pam ond yn gwybod bo raid i fi. Dwi’n meddwl fod y weithred yn gliriach i mi heddiw.

Amser hudol o’r flwyddyn yw amser ail-gylchu dy bwmpen

Neu gadwa e i bydru wrth y drws cefn, be bynnag sy’n teimlo’n briodol. Dwi’n cofio’r un Nick Griffin wnes i gwpwl o flynyddoedd yn ôl yn mynd yn fwyfwy brawychus wrth iddo fe ddarfod, a gwaeth byth yn y bag, fel ysbryd awtoerotig. Ond! Fe ges i amser i eistedd a chreu’r un isod, sy’n llawer fwy llon (a chwl a spwpi), fel anrheg i Llwybr Llaethog.

pwmpen-dub-cymraeg
gaea hapus, o bwmpen ddub cymraeg!

Achlysur cerfio’r bwmpen oedd i ddathlu sbageti bolognese blasus, a rhyddhau eu halbwm newydd, Dub Cymraeg.

Dyma ble mae eu bandcamp, ble alli ei brynnu. Dwi ddim ar gomisiwn, ond mae LL-LL yn arwyr gwneud i fi, a mae’n nhw’n ysbrydoli’r pethau dwi’n eu gwneud o dro i dro.

fel hwn, un o fy hoff sampleri.
fel hwn, un o fy hoff sampleri.

Mwy o bwmpio

IMG_0130-e1382915747907

Ar waelod y daflen ola’ i mi bostio ddoe, mae ‘na gwpwl o syniadau ar sut i newid trwch muriau’r bwmpen i greu effeithiau golau gwahanol.

Dwi’n ffindio llusernau yn anodd iawn i’w ffotograffio: mae’r camera’n siglo yn fy nwylo, neu dyw’r llun ddim cweit yn dala’r naws maen nhw’n eu creu. Ond, dyw’r uchod ddim yn ffôl, a galli weld yn fwy manwl sut i newid lliw y golau trwy wneud toriadau rhannol a chyflawn. Fe wnes doriad cyflawn i greu’r tân, y lleuad a’r fflam sy’n dod o geg y crochan, hanner toriadau yw’r gweddill.

Fe adawes i stribed denau o groen yn ei le i greu’r band o amgylch ceg y grochan – bydd yn ofalus iawn efo’r torrwyr leino os ti am wneud yr un fath. Ma hi’n job gwin wedyn, nid gwin-yn-ystod.

Dyma fy fersiwn i o’r pentre pwmpen ar y daflen. Cyllell grwm, sgiwer a thorwyr leino, triwch nhw. Mae gymaint yn fwy o hwyl na chyllell fara, onest.

Ma ‘na bentre pwmpen ar y daflen hefyd – mae’n hawdd i’w greu gyda phwmpenni bychain, a galli arbrofi efo siapiau drysau a ffenestri gwahanol. Fel yr Hobbit, ond heb y twll distracting yn y sgrîn.

IMG_20131027_191654-e1383768254531
Dyma fy fersiwn i o’r pentre pwmpen ar y daflen. Cyllell grwm, sgiwer a thorwyr leino, triwch nhw. Mae gymaint yn fwy o hwyl na chyllell fara.

Pan gerfies i un ddiwethaf, o’n i wedi fy ysbrydoli gan lawr y goedwig (dwi’n cofio gofyn mewn salon am wallt ‘lliw llawr y goedwig’ ar y pryd, oedd o’n chwiw eitha dwys). Mi wnes bryfaid cop, nadroedd a phenglogau bach o glai, eu peintio’n glou efo acrylic a’u defnyddio i addurno’r tai, ynghyd â brwgaitsh a deiliach hydrefol.

Dwi ddim yn hoffi lluchio addurniadau tymhorol, heblaw y rhai shit*, felly dwi’n lapio’r rhai gorau mewn tusw o’r siop botel a’u cadw. Mi fydd y pryfaid cop yn ail-ymddangos o gwmpas y ty dros y diwrnodau nesa.

*mwy am grefftio crap rywbryd eto

Sut i gerfio pwmpen

Ma na bwmpen odidog wedi ymddangos ar fwrdd yr ystafell fwyta, ac yna ma hi wedi bod yn eistedd ers sbel. Ma pethe wedi bod mor brysur, dwi heb cael cyfle i eistedd efo paned, pin a phapur, heb sôn am gerfio campwaith hydrefol.

Ond ar ôl dod o’r ysbyty echddoe, yn gwynfanllyd a gwamal, mi ffeindies bod peintio dyfrliw yn diddanu’r boen. Felly dyma greu’r taflenni isod – os ti ‘rioed ‘di cerfio pwmpen o’r blaen, neu os ti’n ffansi trio rhywbeth fwy cymhleth, y bwriad yw i dy ysbrydoli.

Ac os yw e’n mynd o’i le? Wel, alli di wastad ei thorri’n ddarnau mân, ei sticio yn y sosban, a’i throi’n gawl (neu gatwad) gan chwerthin yn ddanheddog.

sut-i-gerfio-pwmpen-1

sut-i-gerfio-pwmpen-2

sut-i-gerfio-pwmpen-3