Noswaith dda. Gobeithio bo chi heb fod yn dal eich gwynt ers y post diwethaf.
10 pwynt blogio i bawb !
Dw i wedi bod yn brysur yn gwneud – gan fynd ‘tu hwnt i’r sgwâr’ i greu ambell i ddilledyn. Ond prin dwi wedi bod yn stopio i’w cofnodi, heblaw am ambell i beth ar instagram. Dw i hefyd wedi bod yn brysur iawn efo’r gwaith, a wedi mwynhau gweithio efo trydarwyr yr amgueddfa – un o fy hoff brosiectau ar hyn o bryd ydi @DyddiadurKate, sy’n ddogfen ffantastig am hanes menyw a’i chynefin ym 1915. Beth ydych chi wedi bod wrthi yn ei wneud?
Cardigan i Greta fach, wedi’i chrosio mewn ‘dafedd Snuggly DK, lliw ‘pixie’Sgarff gron ‘Autumn Sunset’ o Moogly wedi’i chrosio mewn dafedd Sirdar ‘Country Style’Hanner maneg crosio tapestri, yn defnyddio’r patrwm ‘Black and White Mittens’ o ravelry.
Y tro hwn ddefnyddies i ddafedd ‘Wash and Wear’ Os ydych chi’n defnyddio ravelry o gwbl, mi ddowch o hyd i fi yn fama: huws. Mi fyddai’n gret gweld pa fath o brosiectau sydd gan bobl ar y gweill (ohohoo), ac i gael chydig o ysbrydoliaeth gan bobl sy’n gwneud yn Gymraeg!
Dw i wedi gyrru heibio ugeinie o weithiau ers i mi ei glymu yn y fan. Pan osodais y peth, roedd ymyl y maes parcio yn llawn blodau, lluniau, ac am rhyw reswm, cot ledr ddrudfawr a lliwgar. Roedd hen fenyw yno yn darllen y cerdiau a mi gawsom ni sgwrs, un fer, am fod dim llawer y gall rhywun ddweud.
Os ‘dych chi wedi bod yn dilyn y gyfres, neu wedi gweld rhywbeth amdani, fe fyddwch chi’n ymwybodol bo cast Game of Thrones yn edrych yn ffantastig. Gwisgoedd cain, gwallt wedi’i blethu’n gywrain (neu’n gywrain o flêr), ac aceri o gnawd.
Maen nhw hefyd yn rhoi llawer o amser i actorion o Loegr, Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth – os fuoch chi ar Soldier Soldier yn y 90au, de chi ddim yn darllen hwn achos de chi YN Game of Thrones.
Wrth ifi wibio trwy’r bedair gyfres sydd ar gael ifi yn defnyddio chromecast (moesymgrymwn gerbron y Chromecast), ro’n i’n gweld ambell i wyneb cyfarwydd Cymreig. Ymysg y Tywysogion, Llysgenhadon, Marchogion dewr, Ymaflwyr – wel, fe ddes i o hyd i’r rhain:
Arteithiwr
Llosgachwr
Rhingyll Sadistaidd
Rhywun sy’n cael ei ladd i symud y plot ymlaen
Dyn sy’n begian i gael bod yn gaethwas
Dyn o’r enw ‘Shagger’
Rhodri Miles (sori o’n i ddim yn talu sylw)
Castrato Llofruddiaethus
aaaa… Bwystfil sy’n byta babis
Dwi’n methu aros i weld beth ma nhw am neud efo Jonathan Pryce. Ffwooor.
Wel am slepjan o ddiwrnod. Dingiwyd y car; torrwyd y ffôn; pelydrwyd yr x. Profodd y profion yn, erm, inconclusive? O’n i’n barod i dorri’n deilchion ar ôl cau drws y ffrynt, tan i fi weld hwn. Bydd popeth yn iawn.
Wrth chwilota trwy gerddi maswedd ar gyfer Gwyl Arall, mi ddois o hyd i hwn: Sgandal.
[diweddariad: yn anffodus, dw i wedi gorfod tynnu ‘n ôl o’r Wyl am resyme iechyd. Bydd raid ichi aros am dipyn eto i ddysgu mwy am ryw a chymry dros y canrifoedd (a gweld fy nghondom enfawr 350 mlwydd oed)]
Pan dwi’n cael gafael ar Rhiannon, mae hi newydd fod yn ymolchi mewn cawodydd cyhoeddus wedi’u hamgylchynu gan weiars pigog. Mae’n debyg mai felna mae bywyd yng Nghalais: cyfleusterau ar hyd ochrau’r hewl i yrrwyr loris a faniau sy’n tramwyo’r sianel, y rhesi o ddynion sy’n chwilio am ffordd o deithio gyda nhw, a’r ffensys sy’n eu rhannu.
‘Dyw bodolaeth gwersylloedd mudwyr ddim yn gyfrinach, ond ar ôl iddyn nhw gael eu dymchwel gan heddlu fis dwetha, mae sefyllfa pobl dlota Ewrop wedi gwaethygu yn enbyd. Mae bron pawb sy’n cyrraedd Calais wedi’u trafficio.
Mae Calais Migrant Solidarity yn cynnal protest heddiw i godi ymwybyddiaeth, a daeth ymdrech undramodydd o Gaerdydd at fy sylw, wrth iddi ddod o hyd i ffordd i roi lloches i’r mudwyr ar y ffîn.
Mae Rhiannon White wedi bod yn casglu pebyll a blancedi wedi i’r torfeydd adael Glastonbury, a’u cario i Galais i’w rhannu gyda dynion heb unrhyw eiddo o gwbl. Mae’n syfrdanol bod pabell gaiff thaflu ar ôl gweithgaredd hamdden, fel Glastonbury, yn dod yn gartref gwerthfawr wrth iddi groesi’r ffîn. Mae’n werth cofio bod y gagendor rhyngddom ni yn llawer mwy grymus na llinell ar fap neu ddarn o ddwr.
Fe ges i gyfle i siarad efo Rhiannon bore ma:
Llun: Rhiannon White
S: Fel wyt ti’n ei dallt hi, pam nad oes gan y bobl yma flancedi?
R: Heddiw yng Nghalais mae tua mil o fudwyr ar y ffîn, a ma mwy o bobl yn cyrraedd bob dydd: o Sudan, o Eritrea ac o Bacistan. Mae ‘na ddau brif wersyll yma a tua pythefnos yn ôl fe wnaeth yr heddlu ddatgan eu bod yn poeni am lefelau haint scabies ymysg mudwyr. Mi ddaethon nhw i’r gwersylloedd a rhacso’r holl bebyll a blancedi, a rhoi’r mudwyr ar fysiau i Baris, dan osgordd heddlu oedd yn cynnwys hofrennydd. Mi anfonwyd y dynion yma ymlaen i rannau eraill o Ffrainc a’r Eidal. Felly mae tipyn ohonyn nhw wedi cyrraedd ‘nôl, er mwyn trio croesi, yn syth o orsafoedd heddlu yn eiddo ar ddim byd, dim ond y dillad oedden nhw’n ei wisgo pan ga’th y gwersylloedd eu clirio.
Felly ‘dyn ni wedi dod i Galais efo 150 o bebyll wnaethon ni ffindio yn Glastonbury ar ôl yr wyl – pebyll oedd pobol wedi’u lluchio neu’u gadael drachefn. A roedd y mudwyr yn cwffio amdanyn nhw. Does na fyth ddigon, achos bo cymaint o ddynion yn cyrraedd bob dydd a chyn lleied yn llwyddo i groesi.
S: Mae ymgyrchu ar lein, yn ogystal â beirniadaeth ohono, wedi cynyddu dros y ddwy flynedd ddwetha. Beth mae’n gymryd i wneud rhwbeth yn y cigfyd, o’i gymharu â ail-drydar ymgyrchoedd neu arwyddo deiseb ar-lein?
R: Y tro cyntaf ti’n gweld anghyfiawnder. Pan ti’n ei weld e, realiti’r peth, ma raid iti wrthweithredu a cheisio ei ddisodli. A’r mwya o hynna ti’n ei wneud, y mwyaf ti ishe ei wneud. Achos mae bod yn y fan a’r lle – oedd gynno ni ddim syniad fod pethe mor wallgo yma. Mi weles grwp o ddynion o Sudan yn aros wrth y ffîn a dynion Ffrengig yn gweithio wrth eu hochor, yn edrych reit trwyddan nhw, heb eu cydnabod fel petaen nhw mewn dau fyd gwahanol. Felly gall deiseb arlein roi’r rhif i ti, bod 1000 o bobl heb loches. Ond ma realiti’r sefyllfa, unigolion yn cwffio dros flanced – pan ti’n gweld hynna mae raid iti wneud rhywbeth.
S: Pam bo mudwyr isio croesi i’r DU yn benodol?
R: Dwi wedi bod yn gofyn hyn a ma’r ymateb di bod yn amrywiol. Fe gwrddais i â boi o Sudan ddoe a’i ymateb o oedd bod triniaeth y DU o fudwyr yn fwy teg. Ond dyw hynny ddim yn berthnasol i bawb – er enghraifft, mae mudwyr sy’n dianc y rhyfel yn Syria yn fwy tebygol o gyrchu lloches yn Sweden, oherwydd bod cytundeb gan y wlad i ganiatáu hynny. Felly mae’n amrywio.
T [cyd-deithiwr yn y fan]: Mae’n werth cofio bod llawer o’r gwledydd ‘ma’n gyn-drefedigaethau, er enghraifft yn Sudan, maen nhw’n eich dysgu yn yr ysgol fod digon i bawb yn y DU.
S: O be dwi’n ddeall mae’r rhan yna o’r siwrne, o gyfandir Ewrop i’r DU, yn un bwysig iawn i lawer o fudwyr. O’n i’n ceisio dirnad faint o’r siwrne yna sy’n symbolig.
R: Mae o yn symbolig. Mae’r Ffrainc a’r Almaen yn trin mudwyr mewn ffordd weddol debyg, ond yn y DU maen nhw’n cael eu trin chydig yn well. Pan maen nhw’n cyrraedd y DU, maen nhw wedi ennill.
Blogyn bach clou achos mae’r chromecast wedi cyrraedd a ma gen i 6 miliwn awr o fideos youtube i’w gwylio ar y teledu. Rywsut mae’n teimlo’n fwy *ffansi*, fel byta Miss Milles oddi ar blât. Ma gen i lot o bethe i’w sgwennu/gneud am hwn, ond ar ôl wythnos arall o ‘sbyta, dychywelyd i’r gwaith a pharatoi at Gwyl Arall, fydd raid iddo aros. Tan fory!
“Fe ymadawodd â’i ofalaeth [gyda’r Annibynnwyr] dan rywfaint o gwmwl…”
“Cafodd waith wedyn fel labrwr yn Chwarel y Becyn, Penmon, a dyma pryd y dechreuodd “y cacwn rhigymu” ei bigo…”
“Treuliodd dair blynedd gyda’r Royal Field Artillery yn ystod Rhyfel Mawr… ac yma eto daeth natur ‘chwit-chwat’ Percy i’r amlwg.”
“Yn dilyn ei gyfnod yn y carchar bu’n byw ym Mhenbedw, ac yna yn Llundain, lle roedd yn cadw siop.”
“Bu farw dipyn o feirdd Sir Fôn pan farwodd Percy Hughes, achos mi fyddai’n ysgrifennu ar ran pobl eraill, a rheiny’n cael gwobrau am eu gwaith.”
Ma Yncl Percy yn swnio fel dipyn o foi. Dechre meddwl amdano wnes i am fod fy nghariad wedi mynd i weld War Horse heno. Sgrifennodd Percy farwnad ethriadol am geffyl gwaith yn ystod y rhyfel byd cynta.
Ma beirniadaeth ei gerddi yn nodi ei sentimentalrwydd, ond mae ‘na rywbeth llai nawddoglyd am hon. Dwi’n hanner cofio stori fod fy hen-Nain wedi creu twll ym matras gwellt y gwely wenscot, iddo gael cuddio ynddo fo pan oedd y fyddin yn galw heibio i recriwtio. Felly dwi’n licio meddwl bo na binshed o halen ymysg y sacarin.
Ta waeth, dyma hi:
Cyrnol Wel, ‘Cyrnol’, ai ti sydd yma, Yn nhân a mwg y gad? Pwy’th listiodd di o ganol Môn I ymladd dros dy wlad? ‘Rwy’n deall wrth dy glustiau Nad yma mae dy fyd, Dy nefoedd di yw cario gwair A thynnu llwyth o yd. Pwy bynnag arall hwyliodd O’i wirfodd dros y lli, Wnest ti mo’ hynny, ‘Cyrnol’, Hen gonscript iawn wyt ti; Gwyn fyd ‘rhen law na fuasai Dy dafod mor rydd a’th draed, I ddweud bod dy gydwybod Yn erbyn tywallt gwaed. A dyma thi’n glwyfedig, O dan y lleuad wen, Heb gysgod tô y stabal Na gwellt o dan dy ben; ‘Rwyt yn rhy sâl i gerdded, Mae’th waed yn lliwio’r fan; ‘Rwyt yn rhy drwm i’th gario, A minnau yn rhy wan. Ffarwel, hen gyfaill rhadlon, Mae’th einoes yn byrhau; Os byth caf weled Cymru gwnaf yno dy goffau: Fe drof i mewn i’r ‘stabal Sy’n fferam wen y ddôl, A thorraf enw “Cyrnol” I bolyn derw’r stôl.