Skip to content

cymraeg

#blogydydd 5: dal i wella

Diwrnod arall o orffwyso yn dod i ben. Golwg yn gwella, ond anodd iawn yw peidio â chyffwrdd fy llygaid o gwbwl! Heddiw dwi di bod yn mwynhau byd natur o du fewn i’r ty, yn sbio ar luniau trip diweddara fy nghariad i hela madarch. Mae twitter yn bod yn boen tîn, felly ewch draw i @caws_llyffant i’w gweld.

Dwi hefyd wedi bod yn ceisio dod o hyd i batrwm mwy addas ar gyfer fy ngwlân Drefach, ac wedi taro ar draws patrwm i wneud llenni croshê gan flogiwr o Rwmania: http://zarazacrochet.weebly.com/yarn-love/just-a-colorful-curtain. Edrych ymlaen at gael bod yn hollol well, i fi gael dechre gwaith agos unwaith yn rhagor.

#blogydydd 3: podcastau a lasers

Dwi’n blogio’n gynnar bore ‘ma am fod gen i antur newydd o fy mlaen heddiw: lasers!

Pew Pew!
Pew Pew!

Ydw, dwi’n dathlu diwedd y rownd yma o lawdriniaeth efo llawdriniaeth fonws! Dwi wedi gwisgo sbectol ers pan o’n i’n dair, felly dwi di penderfynu cael cywiriad golwg laser – mae’n siwr y bydd fy nhrwyn yn teimlo’n hollol noeth hebddynt ond dwi’n fodlon cymryd y risg.

Felly, dyma’r blog ola, falle, y bydda i a fy sbectol yn sgrifennu efo’n gilydd. Diolch bois!

Mae’r cyfnod gwella yn fyr, mae’n debyg, ond yn ddiflas – felly dwi’n ceisio darganfod cymaint o bodcastau a’u llwytho ar frys bore ma, i fi gael cadw’n ddiddan tra’n gorffwys fy llygaid.

 

WERK!
WERK!

Wnes i fwynhau podcast diweddara RuPaul efo Henry Rollins: ‘Abandoning We for I‘ – ac wrth gwrs mi wrandewais i ar Obama ar WTF (er nad yw Maron at fy nant i yn aml).  Ma cyfres Hey Qween ar youtube yn ffefryn swnllyd lliwgar, ond dyw e ddim yn bodcast, na chwaith cweit yn ddigon hir. Dwi’m yn gwrando ar yr haclediad mor aml ac y dylwn i, ond bob tro dwi’n gneud dwi’n joio’n arw. Oes da chi unrhyw ffefrynnau? fe fyddwn i’n gwerthfawrogi unrhyw argymhellion dros y diwrnodau nesa! Er, sai’n siwr sut dwi’n mynd i gymedroli na blogio… Cewn weld! (gobeithio)

#blogydydd 2: gwlân Drefach ar Ravelry

Nodyn bach clou i roi gwybod i’r rhai ohonoch chi sy’n defnyddio Ravelry, fod gwlân o Drefach nawr ar gael ar y gronfa ddata! Gallwch dagio eich gwaith ac ychwanegu’r edafedd aran a dwbl i’ch rhith-stash.

cardigan gwlan amgueddfa

Dwi wedi bod yn creu cardigan yn defnyddio eu dafedd dwbl lliw melynaidd – fe lwythais i’r car efo’r stwff wedi i mi gynnal gweithdy cyfryngau cymdeithasol yno fis diwetha. Yn anffodus (?) ma dipyn o waith datod gen i i’w wneud dros y penwythnos.

Am y tro cynta, dwi di ymddiried yn llwyr mewn patrwm dillad confensiynol, a mae rhywbeth mawr wedi mynd o’i le! Y freuddwyd oedd i greu cardigan gynnes ar gyfer nosweithiau Gwyl y Dyn Gwyrdd.

O deimlo’r gwlân, dwi’n credu y byddai carthen neu fat llawr yn gweddu’n well i’r gwead ta beth. Dwi wedi bod yn chwilio’n ofer am batrwm addas, felly falle bydd rhaid jyst rhoi tro arni a gweld lle mae’r edafedd yn f’arwain i.

Ta waeth – cofiwch dagio’ch prosiectau, os ydych chi wedi defnyddio dafedd hanesyddol Drefach ar gyfer gweu a crosio! Os ‘dych chi am gael golwg ar y gwlân, mae rhagor ar siop arlein yr amgueddfa.

Ymwadiad: dwi’n gweithio i’r amgueddfa ond mae’n elusen a ma gweu yn hwyl, so.

#blogydydd 1: mynwenta

Capel yr Anghytunwyr, Kensall Rise
Yng nghapel yr Anghytunwyr, mynwent Kensal Rise yn Llundain

Dwi’n ymweld ag ysbyty’r brifysgol yng Nghaerdydd yn reit aml, ac am fy mod yn gorffen pennod arall o driniaeth yno, ac yn teimlo’n emo ar ddiwrnod mor braf, fe es allan i gerdded ym mynwent Cathays gerllaw.

Co ni off
Co ni off

Ro’n i’n chwilio am fedd arbennig, enwog, a mi o’n i’n hanner cofio cyfarwyddiadau gesi gan ymgymerwr y tro diwetha ifi grwydro i mewn. Roeddwn i i fod i chwilio am lwybr rhwng dwy groes geltaidd anferth, a cherdded ar hyd ymyl yr ardal bywyd gwyllt. Roedd y garreg rwle fanno. Ma na lot o gerrig.

 

Ma raid mod i wedi cerdded rownd y fynwent gyfa cyn dod o hyd iddi, ond doedd dim llawer o ots gen i: roedd hi’n braf roedd gweld amrywiaeth yr enwau, llinachau, lluniau, addurniadau, cerfiadau.

Processed with VSCOcam with kk2 preset
‘Family Nurse’

Y llon a’r lleddf, fel fyddech chi’n ei ddisgwyl. Mwyfwy o enwau ‘dwi’n eu hadnabod, o ddod i nabod Caerdydd yn well. Dau bentwr tal o bridd cochlyd ochr yn ochr a gorchudd bedd pren.

Mae bedd Louisa Maude yn daclus iawn. Ers talu i’w godi ym 1896, mae pobl Caerdydd wedi gofalu am y garreg, yn ail-beintio’r llythrennau ac yn cadw’r gwair o’i amgylch yn ddestlus.

IMG_20150630_104802

Mae’n stori fer mewn maen. Mae sawl fersiwn ehangach, ond hon yw fy hoff un, sy’n grynodeb o lyfr am hedfan ac awyrenneg gynnar yn Sir Forgannwg.

Os oes diddordeb da chi mewn gweld y bedd, neu i ddysgu rhagor am hanes Caerdydd, ma na nifer o deithiau a sgyrsiau am hanes y fynwent gan Gyfeillion Mynwent Cathays.

 

Ydych chi’n licio mynwenta? Lle fyddwch chi’n licio crwydro?

Gwedd newydd

Hwre! Heuldro hapus i chi a chroeso i’r safle ar ei newydd wedd. Di ddim yn edrych yn wahanol iawn, ond dwi di bod yn gweithio ar drosglwyddo’r data i fy meddiant fy hun. Roedd hynny’n rhywbeth ‘roeddwn i eisio ei wneud ers sbel, a dwi’n falch bo fi wedi magu digon o blwc i wneud heb greu gormod o lanast.

Mae’n flin iawn gen i i’r rhai ohonoch chi wnaeth gyfrannu sylwadau, wnaeth rheiny ddim goroesi’r allforiad/mewnforiad/mewnbyniad yn anffodus. Mae na ddipyn o fân gyfieithiadau i’w wneud hefyd, ymddiheurons i’r rhai ohonoch chi sy’n sensitif i snags.

Dwi di setlo ar y thema yma am ei fod yn haws i’w ddarllen ar ffôn symudol, a dyw e ddim yn rhy ffysi – pedwerydd wampiad yw hwn ers dydd gwener, felly mae’n siwr y bydd yn newid eto unwaith i mi gael digon o egni/rum yndda’i i dorchi llewys a newid y stylesheet (eto).

Oes gennych chi unrhyw argymhellion ar gyfer arbrofi efo stylesheet? (heblaw falle peidio yfed rum cyn gwneud) Mae arbrofi efo enghraifft fyw yn ormod i fy nerfau erbyn hyn, felly os ydych chi di dod ar draws bocs tywod handi, rhowch wybod yn y sylwadau!

Gwneud ac ail-wneud

Cyn i mi fagu plwc a gweu Ail Hosan, dyma edmygu’r un sydd gen i, yn ogystal â cwpwl o ddarne bach eraill o waith o’r mis diwetha:

Doili, sori ‘mandala’ newydd.
Doili, sori ‘mandala’ newydd. Dyma’r patrwm

 

Dechre’r darn cymhleth – troi’r hosan, er mwyn creu lle i’r droed
Dechre’r darn cymhleth – troi’r hosan, er mwyn creu lle i’r droed

 

yr Hosan Gyntaf – bydde’r holl batrymau a fideos youtube a ddefnyddies i yn bost ar eu penne’u hunain felly, wel, mi wnai bost ohonyn nhw ar ei pennau’u hunain!
yr Hosan Gyntaf – bydde’r holl batrymau a fideos youtube a ddefnyddies i yn bost ar eu penne’u hunain felly, wel, mi wnai bost ohonyn nhw ar ei pennau’u hunain! Dafedd rhad ac anarferol o Tiger. Pinc a glas a nefi, fel hen iwnifform penweddig
wysg y cloc – nyddu ar droell law a throelli’r edefynnau at ei gilydd, crosio, edmygu, llenwi efo pethe llachar.
wysg y cloc – nyddu ar droell law a throelli’r edefynnau at ei gilydd, crosio, edmygu, llenwi efo pethe llachar.

Dydd Rhyngwladol Menywod – blog ar Cymru Fyw

Shwmai ers sbel!

Yng nghanol trio twtio’r ty ar gyfer ei werthu, a gweu fy Hosan Gyntaf, ces amser i sgrifennu am gynrychiolaeth menywod ar gyfer BBC Cymru Fyw, ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Menywod 2015: Hanes yn cofio merched Cymru?

Ac achos bo fi di bod ar y trên am ORIAU, wnes i ofyn i bobl gyfrannu enwau menywod yr hoffen nhw eu gweld wedi’u coffau/dathlu yn y brifddinas. Mae pôl o gynigion pobl yn fan hyn – wnes i geisio cyflwyno rhywbeth o hanes a chymeriad y menywod o dan sylw ond dyw surverymonkey ddim yn gweithio’n arbennig o dda rhwng Gobowen a Chwmbrân!

Ta waeth, os y’ch chi moyn, fe allwch chi bleidleisio fan hyn: Merch i’r Brifddinas. Mae’n ddiddorol gweld pwy ma pawb wedi bod yn eu cynnig, a’r ymatebion falle fyddwn i ddim wedi ei ddisgwyl (ond sy’n hollol disgwyliedig, erbyn meddwl, pan ti’n trafod hanes menywod).

Pan dwi di bod yn rhoi sgyrsiau am hanes menywod yn y gorffennol, dwi di gofyn i bobl ofyn ynteu Symbol neu Berson oedden nhw’n edrych arni. Mae avatar Jemima Niclas yn llawer mwy cyfarwydd na stori ei bywyd, er enghraifft. Mae’r un peth yn wir mor bell yn ôl a chynrychiolaeth gynharaf menyw, Fenws Willlendorf, hefyd.

Mwy am hynny rywbryd eto, yn siwr. Dwi di bod yn lwcus iawn i gael ymateb more hael gan bobl heddiw – cofiwch adael sylw, neu gynnig syniad yn y pôl, neu rannu linc at eich gweithgareddau DRhM2015 chi.

A gobeithio y byddwch chi’n mwynhau gweddill y diwrnod!

Trafod Tabws ar Taro’r Post

Mi ges i ddau gais am gyfweliad gan y BBC ddoe, un yn gofyn imi drafod Winston Churchill, a’r llall yn gofyn i mi sôn am fislifau. Cewch ddarganfod pa un ddewises i fan hyn, ar y marc 50 munud: Taro’r Post.

Os fuoch chi’n gwrando, gobeithio i chi fwynhau – roedd yn gret gallu ychwanegu ‘periods’ at y rhestr amrywiol o bethe dwi wedi siarad amdanyn nhw ar y radio/teli yn ddiweddar (pêl droed pledren mochyn, hanes y lliw glas, pantomime dames, David Jones, hanes caethwasiaeth, ysbrydion, ymladd ceiliogod, trais yn erbyn menywod a sut i greu steil gwallt Tuduraidd – portffolio brith ond difyr).

Os oes diddordeb gennych chi yn y pwnc uchod, ‘y tabw olaf’ yn ôl y cyfryngau – ewch draw i wefan Period Positive i ddysgu rhagor am ymgyrchoedd dychmygus a doniol sy’n ceisio gwella safon addysg rhyw ac addysg iechyd mislif ym mhrydain.

Ewch draw i ‘Leak Chic’ i lawrlwytho ategolyn ffasiynol newydd, fel rhan o ymgyrch sy’n ceisio tynnu ar un o ofnau mwyaf sawl person ar ei mislif – y blotyn gwaed.

Os ydych chi ag awydd mentro i fyd ‘gwaedu amgen’, mae Holy Sponge yn gwerthu citiau mislif llawn sbwng môr, saets a swynau – neu os yw hynny’n ormod, efallai y bydd padiau cotwm neu cwpan fislif yn siwtio’n well.

Os, fel fi, ‘dych chi’n licio’r syniad o fod yn Fama Ddaear, ond bod clymau cywilydd dal chydig yn rhy dynn i adael i bopeth ‘hongian mas’, beth am gefnogi prosiect sy’n ceisio torri tabw go iawn: menywod sy ddim yn cael dewis o unrhyw nwyddau hylendid, oherwydd agweddau ceidwadol at fislif – rhai sy’n gorfod defnyddio carpiau neu ludw i gasglu’r gwaed oherwydd cost a phrinder nwyddau addas.

Cefnogwch y menywod ifanc sy’n credu taw salwch yw’r mislif, oherwydd diffyg addysg rhyw, sy’n ofn y mislif, ac yn cadw draw o’r ysgol un wythnos y mis oherwydd diffyg cyfleusterau saff. Mae Women on Wings yn darparu peiriannau gwneud padiau, ac addysg mislif mewn cymunedau ble mae gwir dabw yn niweidio iechyd a hyder menywod. Fel soniais i yn y cyfweliad – cysyniad yw’r tabw gafodd ei drafod yn y tabloids yr wythnos hon – felly beth am estyn y drafodaeth i’r byd go iawn, a’i ddefnyddio i wella ansawdd bywyd menywod yn wyneb y ‘tabw olaf’.

Patrymau Cymraeg?

O’n i’n chwilota trwy’r tag #arygweill neithiwr, pan ddois i ar draws hwn, gan @stfaganstextile: Pa mor gorjes yw’r sgarff ‘na?

Llun o sgarff gan @stfagans_textile

Mae’r patrymau a’r lliwiau mor hyfryd! Dw i wedi bod yn meddwl dechre gwneud cyfarwyddiade gweu, nyddu neu grosio yn gymraeg ers sbel – ond dwi’n cael diagramau gweu yn anodd iawn i’w dilyn ta beth – yn enwedig yr rhai llawdde – felly mae dyfeisio rhai sy’n hawdd eu dilyn wedi bod yn fwy o orchwyl nag o’n i wedi ei obeithio.

Fideos youtube fydda in eu defnyddio gan amla i ddysgu techneg, ac yn y misoedd diwetha, dwi wedi defnyddio patrymau mewn Iseldireg a Sbaeneg, yn ogystal â Saesneg. Mae’n rhan o ddatrys pos y prosiect, ond rhaid dweud, fe fyddwn i’n mwynhau gallu defnyddio patrymau Cymraeg hefyd.

Ydych chi erioed wedi dod ar draws un? Yn ddelfrydol, mae ‘na ryw gyfrol lyfli o’r 60au yn bodoli yn rhywle, wedi’i sgrifennu gan rywun o’r enw Dwysli, neu Farged, efo printiau leino neu ddiagramau dyfrliw drwyddi. Yn y cyfamser – oes gan rywun dermau neu batrymau Cymraeg fydden nhw’n hapus i’w rannu? Rhowch wybod yn y sylwadau!