Skip to content

crosio

Bennu Baner

Cwpwl o luniau creu baner newydd East End Women’s Museum – wedi’i chreu yn arbennig ar gyfer gorymdaith goffa Brwydr Cable St yn Llundain. Gallwch ddarllen mwy am hanes cyfraniad menywod at y diwrnod fan hyn: Women at the Battle of Cable Street.

Fe ddefnyddiais i wyddor crosio Moogly ac edafedd cotwm ar gyfer y llythrennau, a’u startsho ar gefndir deniadol yr hen garped yn y gegin fach:

blocio llythrennau crosio

 

Ar ôl eu blocio, eu defnyddio i farcio’r faner yn defnyddio sialc. Mi ddefnyddiais sialc teiliwr fy nain, Nancy Hughes – cefais ei bocs pwytho yn anrheg gan dad a mae’n drysor gwerthfawr iawn.

Dwi ddim yn giamstar ar fesur a thorri, a dwi’n casau smwddio, felly gwneud y darn nesa tra’n sgyrnygu/yfed gwin/distractio fy hun trwy wylio Star Trek wnes i. 

Y llythrennau wedi'u mesur a'u marcio
Y llythrennau wedi’u mesur a’u marcio

 A dyma hi wedi ei gorffen, eto ar gefndir deniadol y gegin gefn, lle mae’r gwaith ar stop tan i ni ennill y loteri/dysgu sut i blastro.   baner east end women's museum Tyfodd yr amgueddfa mas o hedyn gwneud baneri bychain, archwilio hanes baneri syffrajets Cymru, a myfyrio ar y teithiau y gwnaethon nhw i mewn ac allan o’r wlad. Mi anfonais hi mewn tiwb i Lundain ar gyfer yr orymdaith:

Wnes i fethu dod (mae’n ddrud teithio nôl a mlaen felly roedd rhaid aros adre’r tro hwn) ond mi siaradais i efo Refinery 29 am amgueddfeydd ac ymladd ffasgaeth yn y dyddiau cyn y digwyddiad.

 

Mae’n wych sut ma gwaith llaw bychan, diwyd, intimate, yn galluogi menywod i gael sgyrsiau cyhoeddus, mawrion, pwerus. Diolch i bawb ddaeth i siarad efo Sarah yn ystod yr orymdaith.

#blogydydd 5: dal i wella

Diwrnod arall o orffwyso yn dod i ben. Golwg yn gwella, ond anodd iawn yw peidio â chyffwrdd fy llygaid o gwbwl! Heddiw dwi di bod yn mwynhau byd natur o du fewn i’r ty, yn sbio ar luniau trip diweddara fy nghariad i hela madarch. Mae twitter yn bod yn boen tîn, felly ewch draw i @caws_llyffant i’w gweld.

Dwi hefyd wedi bod yn ceisio dod o hyd i batrwm mwy addas ar gyfer fy ngwlân Drefach, ac wedi taro ar draws patrwm i wneud llenni croshê gan flogiwr o Rwmania: http://zarazacrochet.weebly.com/yarn-love/just-a-colorful-curtain. Edrych ymlaen at gael bod yn hollol well, i fi gael dechre gwaith agos unwaith yn rhagor.

#blogydydd 2: gwlân Drefach ar Ravelry

Nodyn bach clou i roi gwybod i’r rhai ohonoch chi sy’n defnyddio Ravelry, fod gwlân o Drefach nawr ar gael ar y gronfa ddata! Gallwch dagio eich gwaith ac ychwanegu’r edafedd aran a dwbl i’ch rhith-stash.

cardigan gwlan amgueddfa

Dwi wedi bod yn creu cardigan yn defnyddio eu dafedd dwbl lliw melynaidd – fe lwythais i’r car efo’r stwff wedi i mi gynnal gweithdy cyfryngau cymdeithasol yno fis diwetha. Yn anffodus (?) ma dipyn o waith datod gen i i’w wneud dros y penwythnos.

Am y tro cynta, dwi di ymddiried yn llwyr mewn patrwm dillad confensiynol, a mae rhywbeth mawr wedi mynd o’i le! Y freuddwyd oedd i greu cardigan gynnes ar gyfer nosweithiau Gwyl y Dyn Gwyrdd.

O deimlo’r gwlân, dwi’n credu y byddai carthen neu fat llawr yn gweddu’n well i’r gwead ta beth. Dwi wedi bod yn chwilio’n ofer am batrwm addas, felly falle bydd rhaid jyst rhoi tro arni a gweld lle mae’r edafedd yn f’arwain i.

Ta waeth – cofiwch dagio’ch prosiectau, os ydych chi wedi defnyddio dafedd hanesyddol Drefach ar gyfer gweu a crosio! Os ‘dych chi am gael golwg ar y gwlân, mae rhagor ar siop arlein yr amgueddfa.

Ymwadiad: dwi’n gweithio i’r amgueddfa ond mae’n elusen a ma gweu yn hwyl, so.

Gwneud ac ail-wneud

Cyn i mi fagu plwc a gweu Ail Hosan, dyma edmygu’r un sydd gen i, yn ogystal â cwpwl o ddarne bach eraill o waith o’r mis diwetha:

Doili, sori ‘mandala’ newydd.
Doili, sori ‘mandala’ newydd. Dyma’r patrwm

 

Dechre’r darn cymhleth – troi’r hosan, er mwyn creu lle i’r droed
Dechre’r darn cymhleth – troi’r hosan, er mwyn creu lle i’r droed

 

yr Hosan Gyntaf – bydde’r holl batrymau a fideos youtube a ddefnyddies i yn bost ar eu penne’u hunain felly, wel, mi wnai bost ohonyn nhw ar ei pennau’u hunain!
yr Hosan Gyntaf – bydde’r holl batrymau a fideos youtube a ddefnyddies i yn bost ar eu penne’u hunain felly, wel, mi wnai bost ohonyn nhw ar ei pennau’u hunain! Dafedd rhad ac anarferol o Tiger. Pinc a glas a nefi, fel hen iwnifform penweddig
wysg y cloc – nyddu ar droell law a throelli’r edefynnau at ei gilydd, crosio, edmygu, llenwi efo pethe llachar.
wysg y cloc – nyddu ar droell law a throelli’r edefynnau at ei gilydd, crosio, edmygu, llenwi efo pethe llachar.

Patrymau Cymraeg?

O’n i’n chwilota trwy’r tag #arygweill neithiwr, pan ddois i ar draws hwn, gan @stfaganstextile: Pa mor gorjes yw’r sgarff ‘na?

Llun o sgarff gan @stfagans_textile

Mae’r patrymau a’r lliwiau mor hyfryd! Dw i wedi bod yn meddwl dechre gwneud cyfarwyddiade gweu, nyddu neu grosio yn gymraeg ers sbel – ond dwi’n cael diagramau gweu yn anodd iawn i’w dilyn ta beth – yn enwedig yr rhai llawdde – felly mae dyfeisio rhai sy’n hawdd eu dilyn wedi bod yn fwy o orchwyl nag o’n i wedi ei obeithio.

Fideos youtube fydda in eu defnyddio gan amla i ddysgu techneg, ac yn y misoedd diwetha, dwi wedi defnyddio patrymau mewn Iseldireg a Sbaeneg, yn ogystal â Saesneg. Mae’n rhan o ddatrys pos y prosiect, ond rhaid dweud, fe fyddwn i’n mwynhau gallu defnyddio patrymau Cymraeg hefyd.

Ydych chi erioed wedi dod ar draws un? Yn ddelfrydol, mae ‘na ryw gyfrol lyfli o’r 60au yn bodoli yn rhywle, wedi’i sgrifennu gan rywun o’r enw Dwysli, neu Farged, efo printiau leino neu ddiagramau dyfrliw drwyddi. Yn y cyfamser – oes gan rywun dermau neu batrymau Cymraeg fydden nhw’n hapus i’w rannu? Rhowch wybod yn y sylwadau!