Skip to content

blogydydd

#blogydydd 3: y gwaith hirfaith, anorffenedig

Yn yr un modd ag y ma’i wedi ei raglunio bod un bocs sydd byth i’w wagio ar ôl symud ty, un drôr llawn pethe defnyddiol sydd byth am weld gole dydd; hefyd mae un prosiect creadigol yn byw yng ngwaelod y fasged fel petai’n styc mewn merbwll drewllyd.

 MIR
MIR

Be sy’n fy atal rhag ei orffen? Perffeithiaeth a diogi. Efallai fy mod yn hoffi ei gwmpeini ormod i’w anfon i’w gartref newydd. Be sy gynnoch chi yn ymdolcio yng ngwaelod eich basged? Siwmper unllawesog? Sgidie babi i rywun sydd nawr yn ei arddegau? Doethuriaeth am symboliaeth planhigion yng ngwaith Mihangel Morgan? Rhannwch o yn y nodiadau! Mae’n hen bryd ymfalchïo yn ein gweithiau hirfaith, anorffenedig…

#blogydydd 2: baneri

Mae Sian Lile-Pastore a finne wedi bod yn gweithio ar brosiect cudd. Cawsom ein hysbrydoli gan faneri’r syffrajets, ac aethom ati i lunio baneri ein hunain, sydd yn cario enwau menywod. Mae pwytho enwau yn broses hir a myfyrdodol, felly yn raddol daeth yn gyfle i feddwl am hanes yr unigolyn – ac yn gyfle i ddathlu dysgu am hanes menyw o’r newydd. Mi allwch ddarllen mwy am y prosiect yn llyfr newydd Betsy Greer, sef Craftivism: The Art and Craft of Activism. Bydd y llyfr ar gael i’w brynnu yma yng Ngymru wythnos nesa, a mae’n llawn lluniau a chyfweliadau efo ymgyrchwyr gwneud o sawl cyfandir. Yn y cyfamser, dyma lun o rai o’n ffefrynnau:

Dorothy Edwards, awdur ac arloeswraig
Dorothy Edwards, awdur ac arloeswraig
baneri-1024x682
Credit llunia: Sian Lile-Pastore a fi!

Roeddwn i wedi gobeithio mynd â rhan o’n casgliad i Lundain yr haf hwn, i ddathlu Can-Mlwyddiant sefydlu’r East London Federation of Suffragettes yn yr East London Suffragette Festival. Mae’r wyl yn dathlu sefydliad oedd yn ymgyrchu dros hawliau menywod o bob cefndir cymdeithasol, ac yn benderfynol o wneud yn siwr fod taro pleidlais yn realiti i bob menyw – os gewch chi gyfle, ewch, mae’n mynd i fod yn ddiwrnod ffantastig.

Yn anffodus allwn ni ddim gwneud y siwrne eleni – fodd bynnag, parhau i bwytho fyddwn ni, gan obeithio y gallwn eu harddangos yng Nghymru haf nesa’.

‘Dyn ni’n gwybod cyn lleied am y teithiau ‘wnaeth y baneri cyntaf i Lundain, a mae darllen papurau newydd y cyfnod yn dangos cofnod anghyflawn o’r rhyngberthynas rhwng ymgyrchwragedd Lloegr â Chymru. Dwi wastad wedi licio’r llun hwn, o rali Pererindod Pleidleisiaeth ym 1913, ac yn chwilfrydig iawn am siwrne’r faner, a’r rhai a’i gwnaeth a’i chariodd, rhwng Caerdydd a Llundain.

#blogydydd 1: sgrifennu bob dydd

Postcard from the Party
You have to be invited, and there’s nothing
you can do to be asked. Headlines and bloodlines
don’t help. It’s a long way from home but I’m
here, the view much better than I’m used to.
How did this happen? Dumb but good luck,
right place and time, the planets aligned.
No contract, no deadline, no risk. And what
did I do to deserve this? Slept with all
the wrong people, gambled too much on friends
of friends with light bulbs over their heads.
Wrote every day no matter what.

Wyn Cooper
Postcards from the Interior
BOA Editions, Ltd.

Un peth sydd wedi bod yn fy nghadw yn ddiddan tra ‘mod i’n gwella ydi sgrifennu. Dwi’n cofio darllen y bennill uchod a theimlo fod y llinell ola yn smyg, yn afreal, ac yn rywbeth llawer yn rhy foethus i fod yn rhywbeth allwn i fyth ei wneud.

Roedd yn rhan o’r post gwych yma ar Captain Awkward: Falling Out of Love with your creative work and Losing Momentum – ac am amser maith – am ddegawd, rili, cenfigennus o’n i o bobl oedd yn gallu sgrifennu’n hawdd. Neu rhyw gymysgedd o edmygedd o chenfigen, falle. Roedd tudalen wag mor rymus y gallai hi fy ngwneud yn sic, yn ddagreuol, llawn panic. Ond, rywle ar hyd y daith at wellhad corfforol, mi ddysgais i sgrifennu, heb ddarllen yn ôl, yn gyflym a than bod gen i focseidiau o lyfrau nodiadau. Tua mis ar ôl fy llawdriniaeth, mi ges fy nenu at lyfr Julia Cameron ar y silff. Mae’n lyfr enwog, hollol Galiffornaidd, o’r enw ‘The Artist’s Way’ – ond am fod yr amser gen i, ac am fy mod yn teimlo’n well, mi gydiais ynddo a dechre’r ‘Morning Pages’.

Tair ochr tudalen, bob bore, pan fydd cwsg dal yn dy lygaid a’r isymwybod wedi hanner-plymio ‘nôl i’r eigion. Un sgil-effaith fy llawdriniaeth yw fy mod yn breuddwydio bob nos erbyn hyn – felly roedd deffro’n llawn cysgodion straeon yn deimlad cyffrous, newydd. ‘Dyw’r tudalennau ddim i’w darllen, nag i’w rhannu. Yn araf bach, fel ymarfer cyhyr, daeth sgrifennu bob dydd yn rywbeth rhwydd, diddorol a buddiol. Mae’r Tudalennau Bore yn clirio brwgaitsh. Ar gyfer sgrifennu a darlunio creadigol, mae’n well gen i ddefnyddio techneg amgyffred delwedd Lynda Barry (sy wastad yn dweud pethe call ac ysbrydoledig am greadigrwydd, ac yn gyfrifol am y comic GWYCH Marlys). Ond heb y Tudalennau Bore, mae’n hawdd hel meddyliau yng nghanol stori dda, neu ddechre poeni am gost yswiriant car, pwysau bywyd, be sy yn y ffrij. Mae Lynda Barry yn defnyddio darlun o dderyn marw i ddisgrifio naws y math hwnnw o ymdrech, achos ma hi’n wych yn delweddu pethe.

Os ydych chi’n teimlo fel rhoi tro ar sgrifennu’n y bore, gallwch drio, heb wynebu’r dudalen wag, gan ddefnyddio gwefan 750words.

Felly, beth am estyn y Tudalennau Bore a chreu Blog Gyda’r Nos? Diolch i nwdls, fel arfer, am y sbardun!