Mae’n anodd cadw llecyn bach clir yn y ty ar gyfer gwneud a chreu, ond dyma olion y clearing wnes i dros y penwythnos.
Ar waelod y daflen ola’ i mi bostio ddoe, mae ‘na gwpwl o syniadau ar sut i newid trwch muriau’r bwmpen i greu effeithiau golau gwahanol.
Dwi’n ffindio llusernau yn anodd iawn i’w ffotograffio: mae’r camera’n siglo yn fy nwylo, neu dyw’r llun ddim cweit yn dala’r naws maen nhw’n eu creu. Ond, dyw’r uchod ddim yn ffôl, a galli weld yn fwy manwl sut i newid lliw y golau trwy wneud toriadau rhannol a chyflawn. Fe wnes doriad cyflawn i greu’r tân, y lleuad a’r fflam sy’n dod o geg y crochan, hanner toriadau yw’r gweddill.
Fe adawes i stribed denau o groen yn ei le i greu’r band o amgylch ceg y grochan – bydd yn ofalus iawn efo’r torrwyr leino os ti am wneud yr un fath. Ma hi’n job gwin wedyn, nid gwin-yn-ystod.
Dyma fy fersiwn i o’r pentre pwmpen ar y daflen. Cyllell grwm, sgiwer a thorwyr leino, triwch nhw. Mae gymaint yn fwy o hwyl na chyllell fara, onest.
Ma ‘na bentre pwmpen ar y daflen hefyd – mae’n hawdd i’w greu gyda phwmpenni bychain, a galli arbrofi efo siapiau drysau a ffenestri gwahanol. Fel yr Hobbit, ond heb y twll distracting yn y sgrîn.
Pan gerfies i un ddiwethaf, o’n i wedi fy ysbrydoli gan lawr y goedwig (dwi’n cofio gofyn mewn salon am wallt ‘lliw llawr y goedwig’ ar y pryd, oedd o’n chwiw eitha dwys). Mi wnes bryfaid cop, nadroedd a phenglogau bach o glai, eu peintio’n glou efo acrylic a’u defnyddio i addurno’r tai, ynghyd â brwgaitsh a deiliach hydrefol.
Dwi ddim yn hoffi lluchio addurniadau tymhorol, heblaw y rhai shit*, felly dwi’n lapio’r rhai gorau mewn tusw o’r siop botel a’u cadw. Mi fydd y pryfaid cop yn ail-ymddangos o gwmpas y ty dros y diwrnodau nesa.
*mwy am grefftio crap rywbryd eto
Ma na bwmpen odidog wedi ymddangos ar fwrdd yr ystafell fwyta, ac yna ma hi wedi bod yn eistedd ers sbel. Ma pethe wedi bod mor brysur, dwi heb cael cyfle i eistedd efo paned, pin a phapur, heb sôn am gerfio campwaith hydrefol.
Ond ar ôl dod o’r ysbyty echddoe, yn gwynfanllyd a gwamal, mi ffeindies bod peintio dyfrliw yn diddanu’r boen. Felly dyma greu’r taflenni isod – os ti ‘rioed ‘di cerfio pwmpen o’r blaen, neu os ti’n ffansi trio rhywbeth fwy cymhleth, y bwriad yw i dy ysbrydoli.
Ac os yw e’n mynd o’i le? Wel, alli di wastad ei thorri’n ddarnau mân, ei sticio yn y sosban, a’i throi’n gawl (neu gatwad) gan chwerthin yn ddanheddog.