Mae gan ran-ddeiliaid M+S gyfle’r wythnos hon i wneud gwahaniaeth i fywydau eu staff, ac i arwain y gad o ran talu ‘tâl byw’ yn y sector fanwerthu. Mae 11.5% o gartrefi Cymru o dan dlodi gwaith – oherwydd tâl isel neu gontractau 0 awr, felly dyma geisio gweithredu i argyhoeddi M+S i roi tâl teg i’w gweithwyr ar hyd a lled Cymru.
Yr wythnos ddiwetha, fe fues i’n cymryd rhan mewn gweithred fechan yng Nghanol Caerdydd:

Fe fuom ni’n brodio hancesi efo negeseuon i’r cyfranddalwyr – yn oes deiseb-glicio (a does dim yn bod ar hynny), mae creu gwrthrych feddylgar yn creu dipyn o argraff, a mae’r Craftivist Collective wedi bod yn anfon llythyrau brodio at ASau a ffigyrau cyhoeddus eraill ers tro. Ro’n i’n falch iawn o fod yn rhan o’r weithred, ac yn falch o gwrdd â phobl newydd, yn ogystal â phobl sydd wedi dod i weu yn dawel efo fi yn y gorffennol – yn enwedig am i fi ddysgu beth oedd eu henwau tro yma!
Cefnogwch yr ymgyrch wrth drydar, rhannu linc ein partner, ShareAction; codi ymwybyddiaeth, rhannu’r lluniau o flickr Craftivist Collective. Mae citiau ymgyrch, bathodynnau a’r llyfrau ar eu gwefan yn cefnogi gwaith Sarah, sy’n cydlynu gweithredoedd ar hyd Cymru, Lloegr a’r Alban, ac yn dod â ni at ein gilydd o bryd i’w gilydd i greu a, gobeithio, gwneud gwahaniaeth.