
Dwi’n ymweld ag ysbyty’r brifysgol yng Nghaerdydd yn reit aml, ac am fy mod yn gorffen pennod arall o driniaeth yno, ac yn teimlo’n emo ar ddiwrnod mor braf, fe es allan i gerdded ym mynwent Cathays gerllaw.

Ro’n i’n chwilio am fedd arbennig, enwog, a mi o’n i’n hanner cofio cyfarwyddiadau gesi gan ymgymerwr y tro diwetha ifi grwydro i mewn. Roeddwn i i fod i chwilio am lwybr rhwng dwy groes geltaidd anferth, a cherdded ar hyd ymyl yr ardal bywyd gwyllt. Roedd y garreg rwle fanno. Ma na lot o gerrig.
Ma raid mod i wedi cerdded rownd y fynwent gyfa cyn dod o hyd iddi, ond doedd dim llawer o ots gen i: roedd hi’n braf roedd gweld amrywiaeth yr enwau, llinachau, lluniau, addurniadau, cerfiadau.

Y llon a’r lleddf, fel fyddech chi’n ei ddisgwyl. Mwyfwy o enwau ‘dwi’n eu hadnabod, o ddod i nabod Caerdydd yn well. Dau bentwr tal o bridd cochlyd ochr yn ochr a gorchudd bedd pren.
Mae bedd Louisa Maude yn daclus iawn. Ers talu i’w godi ym 1896, mae pobl Caerdydd wedi gofalu am y garreg, yn ail-beintio’r llythrennau ac yn cadw’r gwair o’i amgylch yn ddestlus.
Mae’n stori fer mewn maen. Mae sawl fersiwn ehangach, ond hon yw fy hoff un, sy’n grynodeb o lyfr am hedfan ac awyrenneg gynnar yn Sir Forgannwg.
Os oes diddordeb da chi mewn gweld y bedd, neu i ddysgu rhagor am hanes Caerdydd, ma na nifer o deithiau a sgyrsiau am hanes y fynwent gan Gyfeillion Mynwent Cathays.
Ydych chi’n licio mynwenta? Lle fyddwch chi’n licio crwydro?