Helo ‘na. Fel ma Captain Awkward yn ddweud: dwi’n casau postiau sy’n dechre efo ‘sori bo fi ddim wedi postio am sbel’ ond sori bo fi ddim wedi postio am sbel, a helo.
Dwi wedi bod yn gwella ar ol triniaeth reit ddifrifol sy wedi fy ngadael yn slepjan llwyr, yn nofio ar leilo o dabledi lladd-poen o un apwyntiad ysbyty i’r llall. Ma mwy o bobol wedi rhoi eu dwylo yn fy ngheg yn y mis diwetha na liciwn i gyfadde, a pharhau fydd hynny am ryw chwe mis arall, tan fod esgyrn fy ngên wedi asio’n iawn, a’r nerfau brau wedi ail-dyfu yn fy ngwefus.
Yn y cyfamser, dwi wedi cael lot o amser i orffen prosiectau yn ara bach; i feddwl am beth liciwn i ei wneud pan fydda i wedi gwella; ac i sgrifennu rhywfaint yn y boreuau. Dw i ddim wedi diflasu eto, a mae’n bleser gwneud camau bychain ymlaen.
#camaubychainymlaen: Mae’r thema’n gweithio rywfaint yn well rwan – fe alli di adael nodyn os hoffet ti, a lincio at bostiau penodol. Yn sgil hynny, mae rhai bits o’r thema wedi ôl-ddad-gymreigio. Ymddiheuriadau. Mi ail-ail-gymreigiai nhw pan fydda i’n teimlo’n ddewr.